Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Yn mwyafrif o amgylchiadau , ni fydd angen caniatâd cynllunio er mwyn troi seler neu islawr mewn eiddo preswyl yn ardal fyw, ar yr amod nad yw'n uned ar wahân, nad yw at ddefnydd tra gwahanol ac na newidir ymddangosiad allanol yr adeilad.
Nid oes angen caniatâd cynllunio fel rheol pan fyddwch yn gosod boeler neu system wresogi newydd sbon neu’n rhoi boeler neu system wresogi newydd yn lle hen un.
Mae’n bosibl bod estyniad neu ychwanegiad i’ch tŷ yn waith datblygu a ganiateir, nad oes angen cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer, cyhyd â’i fod yn cydymffurfio ag amodau a therfynau.
Nid oes angen ichi gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer gwaith atgyweirio, cynnal a chadw nac ar gyfer mân welliannau i waliau allanol eich eiddo.
Fel rheol, mae gwaith i osod neu newid ffliw, simnai neu bibell garthion ac awyr allanol newydd sbon, neu waith i osod rhai newydd yn lle hen rai, yn cael ei ystyried yn waith datblygu a ganiateir, nad oes angen caniatâd cynllunio, yn amodol ar amodau.
Fel arfer mae gosod simnai ar adeiladau annomestig fel rhan o system gwresogi biomas, neu system gwres a phŵer cyfunedig, yn debyg o gael ei ystyried yn 'ddatblygiad a ganiateir' heb fod angen ymgeisio i'r awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio.
Ni fydd angen caniatâd cynllunio fel rheol i osod system pwmp gwres, a dylai’r gwaith ddod o dan hawliau datblygu a ganiateir, cyhyd â’ch bod yn cydymffurfio ag amodau penodol.
Mae'n debyg y bydd gosod pwmp gwres ffynhonnell daear neu ddŵr ar dir adeilad annomestig yn cael ei ystyried yn 'ddatblygiad a ganiateir' ac ni fydd angen ymgeisio i'r awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio.
Ni fydd angen caniatâd cynllunio fel rheol. Fodd bynnag, bydd angen caniatâd os byddwch yn ymestyn neu'n newid y lle yn y to ac os bydd yn mynd y tu hwnt i amodau a therfynau penodol.
Ni fydd angen caniatâd cynllunio fel rheol pan fyddwch yn gosod system microgynhyrchu gwres a phŵer cyfun mewn tŷ, os yw'r gwaith i gyd yn waith mewnol.
Mae adeiladau allan yn cael eu hystyried yn waith datblygu a ganiateir, nad oes angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer, cyhyd â’u bod yn cydymffurfio ag amodau penodol.
Bernir bod ychwanegu portsh at unrhyw un o ddrysau allanol eich tŷ yn waith datblygu a ganiateir, nad oes angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer, os caiff amodau penodol eu bodloni.
Byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer y newid defnydd hwn, a fyddai'n newid o bwys, oherwydd mae'r defnydd newydd arfaethedig yn perthyn i ddosbarth defnydd gwahanol o fewn y system gynllunio.
Mewn llawer o achosion mae'n debygol y bydd gwaith gosod paneli solar ar do un tŷ annedd yn cael ei ystyried yn waith datblygu a ganiateir dan gyfraith cynllunio, heb fod angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer.
Mewn sawl achos, mae gosod paneli solar ar dir annomestig yn debygol o gael ei ystyried yn 'ddatblygiad a ganiateir' ac ni fydd angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio.
Os nad ydych yn siŵr am statws coed yr ydych yn bwriadu eu tocio neu’u cwympo (neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch), dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol.
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i diwygiwyd) yn rhoi'r gwahanol fathau o ddefnydd tir ac adeiladau mewn amryw gategorïau a elwir yn 'Ddosbarthiadau Defnydd'.
Efallai na fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer codi estyniadau bach i warysau ac adeiladau diwydiannol, gan gynnwys codi adeiladau ychwanegol o fewn y cwrtil.
Gall gosod, addasu neu gyfnewid tyrbin gwynt sy’n sefyll ar ei ben ei hun (nad yw’n cael ei osod ar adeilad) o fewn ffiniau tŷ annedd gael ei ystyried yn ddatblygu a ganiateir, ar yr amod eich bod yn cydymffurfio ag amodau penodol.
Nid oes angen caniatâd cynllunio o reidrwydd i weithio gartref. Y prawf allweddol yw a fydd cymeriad cyffredinol yr annedd yn newid o ganlyniad i’r busnes.