Yn y canllaw hwn
1. Cyflwyniad
Cyn ichi brynu neu rentu antena, gofynnwch a oes arnoch angen caniatâd cynllunio, caniatâd adeilad rhestredig, neu ganiatâd y landlord neu’r perchennog. Chi fydd yn gyfrifol am osod antenâu yn y lle priodol.
Ni fydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio i osod antena ar eich eiddo, cyhyd â’ch bod yn cydymffurfio â’r terfynau a’r amodau a ganlyn:
- Ni fydd mwy na dau antena ar yr eiddo yn gyffredinol (gallai’r rheini fod ar du blaen neu du cefn yr adeilad, ar y to, yn sownd wrth y simnai neu yn yr ardd).
- Os byddwch yn gosod un antena, ni fydd yn fwy nag 1 metr o faint ar hyd unrhyw linell syth (heb gynnwys unrhyw elfen borthi sy’n estyn allan, ymyl cryfhau, offer gosod a bracedi).
- Os byddwch yn gosod dwy antena, ni fydd un yn fwy nag 1 metr o faint ar hyd unrhyw linell syth ac ni fydd y llall yn fwy na 60 centimetr o faint ar hyd unrhyw linell syth (heb gynnwys unrhyw elfen borthi sy’n estyn allan, ymyl cryfhau, offer gosod a bracedi).
- Ni fydd capasiti ciwbig pob antena unigol yn fwy na 35 litr.
- Ni fydd antena sydd wedi’i rhoi’n sownd wrth gorn simnai yn fwy na 60 centimetr o faint ar hyd unrhyw linell.
- Os bydd antena’n cael ei gosod ar y to, ni fydd yn ymestyn uwchlaw’r to oni bai bod corn simnai. Os felly, ni ddylai’r antena ymestyn mwy na 60 centimetr uwchlaw rhan uchaf y to, neu uwchlaw rhan uchaf y corn simnai, pa bynnag un sydd isaf.
Adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth, parciau cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu safleoedd treftadaeth y byd
Os yw’ch adeilad mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol neu Safle Treftadaeth y Byd, ni fydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio i osod antena ar eich eiddo, cyhyd â’ch bod yn cydymffurfio â’r amodau a ganlyn:
- nid yw’r antena’n cael ei gosod ar simnai, wal neu oleddf to sy’n wynebu ffordd ac sy’n amlwg o’r ffordd
- nid yw’r adeilad yn uwch na 15 metr.
Os na fydd yn gwaith yn bodloni’r gofynion hyn, bydd angen caniatâd cynllunio arnoch.
Rhagor o wybodaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall yr hyn y sut y mae’r rheoliadau’n ei ddweud am faint yr antenâu a ganiateir a lle y dylid eu gosod.