Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych yn bwriadu gosod neu ailosod wyneb caled o flaen eich tŷ, rhaid ichi ddefnyddio deunyddiau hydraidd neu fân-dyllog; neu mae'n rhaid cyfeirio dŵr wyneb o arwyneb caled anhydraidd, fel concrit, i wyneb hydraidd neu fân-dyllog o flaen eich cartref.

Gallwch ailosod neu atgyweirio ardal fach, hyd at 5 metr sgwâr, o wyneb caled sydd eisoes yn bodoli heb ddefnyddio deunyddiau hydraidd neu fân-dyllog − er enghraifft i atgyweirio tyllau yn y dreif, neu i ailosod slabiau mewn patio sydd eisoes yn bodoli.

Gallai fod angen caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith sylweddol i godi cloddiau neu i greu terasau er mwyn cynnal arwyneb caled.

Os ydych yn byw mewn adeilad rhestredig, bydd angen ichi wneud cais cynllunio er mwyn gosod arwyneb caled.

Sylwer: mae’r lwfansau datblygu a ganiateir a ddisgrifir yma’n berthnasol i dai ac nid i fflatiau, maisonettes neu adeiladau eraill. Cliciwch yma i weld cyfarwyddyd ar fflatiau a maisonettes.

Dileu hawliau datblygu a ganiateir

Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith. 

Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr. 

Canllaw i ddeiliaid tai

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.