Caiff Gwrychoedd Uchel eu trin dan Ran 8 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Saesneg yn unig) planlink a ddaeth yn weithredol yng Nghymru ar 31 Rhagfyr 2004.

Cyhyd â'u bod wedi ceisio ac wedi disbyddu pob dull arall o ddatrys yr anghydfod, gall pobl fynd â chwyn am wrych bythwyrdd cymydog at eu hawdurdod lleol.

Gall Cynghorau godi ffi am ddarparu'r gwasanaeth hwn. Uchafswm y ffi y gellir ei chodi yng Nghymru yw £320. Mae'r ffi yn dâl am wasanaeth, a mater i'r awdurdodau cynllunio lleol yw penderfynu a ddylid codi tâl, a faint ddylai'r tâl hwnnw fod. Bwriad y ffi yw annog pobl i geisio datrys anghydfodau preifat mewn modd cyfeillgar gan sicrhau mai'r cam olaf un yw ymglymiad y cyngor. Bwriad y ffi hefyd yw atal cwynion gwamal neu flinderus.

Nid gweithredu fel cyfryngwr neu negodwr rhwng yr achwynydd a pherchennog y gwrych yw rôl yr awdurdod lleol, ond dyfarnu - yng ngeiriau'r Ddeddf - a yw'r gwrych yn amharu ar fwynhad rhesymol yr achwynydd o'i eiddo.

Drwy wneud hyn, rhaid i'r awdurdod ystyried yr holl ffactorau perthnasol a tharo cydbwysedd rhwng buddiannau cystadleuol yr achwynydd a pherchennog y gwrych, yn ogystal â buddiannau'r gymuned ehangach.

Os yw'r awdurdod lleol o'r farn fod yr amgylchiadau'n cyfiawnhau hynny, bydd yn cyhoeddi rhybudd ffurfiol i berchennog y gwrych a fydd yn egluro'r hyn sydd rhaid iddo ei wneud i'r gwrych er mwyn datrys y broblem, ac erbyn pryd.

Dan y Ddeddf caiff yr achwynydd neu berchennog neu ddeiliad y tir sy'n cynnwys y gwrych apelio at Weinidogion Cymru.

Mae methu â chwblhau'r gwaith yn unol â gofyniad yr awdurdod yn drosedd, a allai arwain at erlyniad a dirwy.

Gallwch gael arweiniad ar y system gwyno am berthi uchel yng Nghymru drwy gysylltu â Llywodraeth Cymru drwy’r e-bost: planning.directorate@llyw.cymru.