Nid yw systemau rheoli cynllunio'n berthnasol i olau ynddo'i hun a ffitiadau golau domestig bach.
Er hynny, os ydych yn bwriadu gosod goleuadau allanol at ddibenion diogelwch neu ddibenion eraill, dylech sicrhau nad yw tanbeidrwydd a chyfeiriad y golau'n aflonyddu ar eraill. Mae llawer o bobl yn dioddef aflonyddwch eithafol oherwydd golau gormodol neu olau a ddyluniwyd yn wael.
Dylech sicrhau NA chaiff pelydrau golau eu cyfeirio'n uniongyrchol at ffenestri tai eraill. Dylid addasu goleuadau diogelwch sy'n cynnwys synwyryddion is-goch goddefol (PIR) a/neu ddyfeisiau amseru, er mwyn lleihau gymaint ag y bo modd y niwsans a achosir i gymdogion, ac er mwyn eu gosod ar lefel sy'n golygu na chânt eu deffro gan draffig neu gerddwyr sy'n mynd heibio i'ch eiddo.
Gallai cymydog fynd â chi i'r llys os byddwch yn esgeulus neu'n achosi niwsans.
Os yw eich eiddo yn adeilad rhestredig, dylech ymgynghori bob amser â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol.