Ni fydd angen caniatâd cynllunio fel rheol i osod system pwmp gwres o’r ddaear neu wres o ddŵr, a dylai’r gwaith ddod o dan hawliau datblygu a ganiateir.
Fodd bynnag, os ydych yn byw mewn adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth, dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn beth yw’r polisi lleol.
Fel arfer, caniateir gosod un pwmp gwres sy’n defnyddio aer, ac sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwresogi yn unig, cyn belled â’i fod yn cydymffurfio â Safonau Cynllunio'r Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu (MSC) (neu â safonau cyfatebol) ac â’r amodau a ganlyn:
- ni cheir gosod mwy nag un pwmp gwres sy’n defnyddio aer ar (neu o fewn cwrtil) eich eiddo
- ni chaiff cyfaint uned gywasgu allanol (gan gynnwys unrhyw orchudd allanol sydd arno) y pwmp gwres sy’n defnyddio aer fod yn fwy nag un metr ciwbig
- ni cheir gosod unrhyw ran o’r pwmp gwres sy’n defnyddio aer o fewn tri metr i ffin eich eiddo
- os oes tyrbin gwynt annibynnol yn cael ei osod o fewn cwrtil y tŷ annedd pan osodir pwmp gwres sy’n defnyddio aer
- ni cheir gosod y pwmp gwres sy’n defnyddio aer ar do sydd ar oleddf
- os yw’n cael ei osod ar do fflat, rhaid peidio â lleoli’r pwmp gwres sy’n defnyddio aer o fewn metr i ymyl allanol y to hwnnw
- ni cheir gosod y pwmp gwres sy’n defnyddio aer ar wal neu do sy’n wynebu priffordd.
Wrth leoli pympiau gwres sy’n defnyddio aer, rhaid sicrhau eu bod yn cael cyn lleied o effaith ag y bo modd ar olwg eich eiddo ac ar amwynder ehangach yr ardal. I gael rhagor o wybodaeth am y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â gosod pympiau gwres sy’n defnyddio aer, dylech gysylltu â’ch awdurdod cynllunio lleol.
Dileu hawliau datblygu a ganiateir
Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith.
Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr.