Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r rheolau cynllunio ar gyfer portshys yn berthnasol i unrhyw un o ddrysau allanol eich eiddo.

Bernir bod ychwanegu portsh at unrhyw un o ddrysau allanol eich tŷ yn waith datblygu a ganiateir, nad oes angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer, os caiff yr amodau a restrir isod eu bodloni:

  1. Ni fydd arwynebedd y llawr gwaelod (o’i fesur y tu allan) yn fwy na thri metr sgwâr.
  2. Ni fydd unrhyw ran yn uwch na thri metr uwchlaw lefel y ddaear (bydd angen mesur yr uchder yn yr un modd ag y mesurir estyniad i dŷ).
  3. Ni fydd unrhyw ran o’r portsh o fewn dau fetr i unrhyw un o ffiniau’ch eiddo a’r briffordd.

Sylwer: mae’r lwfansau datblygu a ganiateir a ddisgrifir yma’n berthnasol i dai ac nid i fflatiau, maisonettes neu adeiladau eraill. Cliciwch yma i weld cyfarwyddyd ar fflatiau a maisonettes.

Dileu hawliau datblygu a ganiateir

Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith. 

Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr. 

Canllaw i ddeiliaid tai

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.