Yn y canllaw hwn
1. Rwyf am newid fy eiddo preswyl yn siop
Byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer y newid defnydd hwn, a fyddai'n newid o bwys, oherwydd mae'r defnydd newydd arfaethedig yn perthyn i ddosbarth defnydd gwahanol o fewn y system gynllunio.
Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ardaloedd siopa neu ardaloedd masnachol dynodedig yn eu polisïau cynllunio, lle gallent ystyried bod newid defnydd o'r fath yn addas. Mae'n debyg y bydd yn anodd iawn cael caniatâd y tu allan i'r ardaloedd hyn, er enghraifft, mewn ardal sy'n ardal breswyl yn ei chyfanrwydd.
Er na fydd angen caniatâd cyn i'r gwaith ddechrau, os gwrthodir rhoi caniatâd bydd yn rhaid dadwneud y gwaith, a gallai'r awdurdod gymryd camau gorfodi ffurfiol yng nghyswllt y newid defnydd a gyflawnwyd heb ganiatâd cynllunio.
Efallai hefyd y bydd arnoch angen caniatâd y landlord neu'r tirfeddiannwr.
Cliciwch yma i ddarllen y cyfarwyddyd ynghylch dosbarthiadau defnydd yn y drefn gynllunio.