Neidio i'r prif gynnwy

Fel arfer mae gosod simnai ar adeiladau annomestig fel rhan o system gwresogi biomas, neu system gwres a phŵer cyfunedig, yn debyg o gael ei ystyried yn 'ddatblygiad a ganiateir' heb fod angen ymgeisio i'r awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio. Serch hynny, mae cyfyngiadau pwysig y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn elwa o'r hawliau datblygu a ganiateir (gweler isod).

Mae tir annomestig at ddibenion yr hawliau datblygiad a ganiateir hyn yn eang a gallant gynnwys busnesau ac adeiladau cymunedol. Mae hawliau datblygu a ganiateir hefyd ar gael ar gyfer eiddo domestig.

Mae manylion ar gyfer systemau biomas i'w canfod yma.

Mae manylion ar gyfer systemau gwres a phŵer cyfunedig i'w canfod yma.

Efallai y byddwch yn dymuno trafod gyda'r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer eich ardal pa un a fydd yr holl gyfyngiadau yn cael eu bodloni.

Gosod simnai fel rhan o system gwresogi biomas, neu system gwres a phŵer cyfunedig, ar adeilad annomestig

Er mwyn cael eu hystyried yn ddatblygiad a ganiateir, rhaid bodloni'r holl gyfyngiadau a ganlyn:

  • ni ddylai gallu'r system fod yn fwy na 45 cilowat thermal
  • ni ddylai'r simnai fod yn fwy na un metr yn uwch na rhan uchaf y to, neu uchder y simnai gyfredol sy'n cael ei newid, pa bynnag un sydd uchaf
  • nid yw hawliau datblygu a ganiateir yn berthnasol i osod simneiau ar adeiladau rhestredig, ar dir adeilad rhestredig, neu ar safle sydd wedi'i ddynodi yn heneb gofrestredig
  • dim ond un simnai, sy'n ffurfio rhan o naill ai system gwresogi biomas neu system gwres a phŵer cyfunedig, a all fod ar yr un adeilad.

Cyfyngiadau

Os yw'r adeilad ar dir dynodedig* ni ellir gosod y simnai ar wal neu lethr to sy'n wynebu priffordd.

* Mae tir dynodedig yn cynnwys parciau cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ardaloedd cadwraeth a Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Nodyn - Os ydych chi'n ddaliwr prydles efallai y bydd angen i chi gael caniatâd gan eich landlord, rhydd-ddeiliad neu gwmni rheoli.