Neidio i'r prif gynnwy

Nid oes angen ichi gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer gwaith atgyweirio, cynnal a chadw nac ar gyfer mân welliannau, fel peintio’ch tŷ.

Os ydych yn byw mewn adeilad rhestredig, bydd angen caniatâd adeilad rhestredig arnoch ar gyfer gwneud unrhyw waith sylweddol y tu mewn neu’r tu allan.

Os ydych yn byw mewn Ardal Gadwraeth, Parc Cenedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu Safle Treftadaeth y Byd, bydd angen ichi gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio cyn gosod cladin cerrig, cerrig artiffisial, gro chwipio, rendr, pren, plastig neu deils ar waliau allanol eich cartref.

Y tu allan i’r ardaloedd hyn, ceir gosod cladin heb fod angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio cyn belled â bod y deunyddiau’n debyg i’r rheini a ddefnyddiwyd wrth adeiladu’r tŷ.

Inswleiddio waliau allanol

Yr hyn yw inswleiddiad waliau allanol yw haen o ddeunydd inswleiddio sy’n cael ei rhoi’n sownd i waliau allanol gan ddefnyddio gosodiadau mecanyddol a gludydd, ac sy’n cael ei gorchuddio wedyn a haenau amddiffynnol o rendr neu gladin. Mae’r gorffeniad yn gorchuddio tu allan yr adeilad yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys gwaith brics sy’n bodoli eisoes.

Rhaid i drwch inswleiddiad waliau allanol beidio â bod yn fwy na 16cm. Os yw trwch inswleiddiad waliau allanol yn fwy na 16cm, bydd angen caniatâd cynllunio. Os ydych yn byw mewn Ardal Gadwraeth, Parc Cenedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu Safle Treftadaeth y Byd, bydd angen  ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio hefyd.   

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi taflen a all eich helpu i ystyried y materion sy’n gysylltiedig  â gosod inswleiddiad solet ar waliau allanol eich cartref.

Canllaw i ddeiliaid tai

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.

Dileu hawliau datblygu a ganiateir

Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith. 

Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr.