Yn y canllaw hwn
1. Caniatâd cynllunio: pympiau gwres (annomestig)
Mae'n debyg y bydd gosod pwmp gwres ffynhonnell daear neu ddŵr ar dir adeilad annomestig yn cael ei ystyried yn 'ddatblygiad a ganiateir' ac ni fydd angen ymgeisio i'r awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio. Serch hynny, mae cyfyngiadau ac amodau pwysig y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn elwa o'r hawliau datblygu a ganiateir (gweler isod).
Mae tir annomestig at ddibenion yr hawliau datblygu a ganiateir hyn yn eang ac fe allant gynnwys busnesau ac adeiladau cymunedol. Mae hawliau datblygu a ganiateir hefyd ar gael ar gyfer eiddo domestig, ac mae manylion i'w canfod yma.
Nodyn – mae'n debyg y bydd gosodiadau pympiau gwres ffynhonnell aer ar dir annomestig yn gofyn am gais am ganiatâd cynllunio i'r awdurdod lleol.
Efallai y byddwch yn dymuno trafod gyda'r awdurdod cynllunio lleol yn eich ardal i weld a fydd yr holl gyfyngiadau ac amodau yn cael eu bodloni.