Mae gosod decin, neu blatfformau eraill sy’n uwch na lefel y tir, yn eich gardd yn ddatblygu a ganiateir nad oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer, ar yr amod:
- Na chaiff y decin na’r platfform estyn y tu hwnt i wal sy’n rhan o brif wedd y tŷ annedd gwreiddiol. Mae canllawiau ar yr hyn a olygir wrth y brif wedd i’w gweld yn y canllaw i ddeiliaid tai.
- Nid yw’r decin neu’r platfform yn fwy na 30cm uwchben y ddaear.
- Nid yw’r decin neu’r platfform, ar y cyd ag estyniadau eraill, adeiladau allan etc yn gorchuddio mwy na 50 y cant o arwynebedd yr ardd.
- Ni chaiff y decin neu’r platfform estyn y tu hwnt i ochr y tŷ pe bai’r datblygiad yn nes i briffordd na’r tŷ presennol, neu o leiaf 5 metr o’r briffordd – pa un bynnag sydd agosaf.
Sylwer: mae’r lwfansau datblygu a ganiateir a ddisgrifir yma’n berthnasol i dai ac nid i fflatiau, maisonettes neu adeiladau eraill. Cliciwch yma i weld canllawiau ar fflatiau a maisonettes.
Dileu Hawliau Datblygu a Ganiateir
Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith.
Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr.