Fel rheol, ni fydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio i atgyweirio neu gynnal a chadw peipiau glaw, draeniau a charthffosydd.
Efallai na fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith ei hun, ond dylech gadarnhau’r sefyllfa o ran perchenogaeth a chyfrifoldeb cyn gwneud unrhyw waith addasu neu gynnal a chadw. Gallech fod yn rhannu draeniau, carthffosydd a thyllau archwilio â chymdogion, neu gallai’r awdurdod dŵr perthnasol fod yn berchen arnynt.
Gallai methu â chadarnhau’r manylion hyn neu fethu â chydymffurfio â safonau/deddfwriaeth berthnasol arwain at achos cyfreithiol neu gamau unioni, a chithau’n talu’r gost.
Os ydych yn byw mewn adeilad rhestredig, bydd angen caniatâd adeilad rhestredig arnoch ar gyfer unrhyw waith sylweddol, boed yn waith allanol neu’n waith mewnol.