Ni fydd angen caniatâd cynllunio fel rheol i osod deunydd inswleiddio.
Inswleiddio waliau allanol
Yr hyn yw inswleiddiad waliau allanol yw haen o ddeunydd inswleiddio sy’n cael ei rhoi’n sownd i waliau allanol gan ddefnyddio gosodiadau mecanyddol a gludydd, ac sy’n cael ei gorchuddio wedyn a haenau amddiffynnol o rendr neu gladin. Mae’r gorffeniad yn gorchuddio tu allan yr adeilad yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys gwaith brics sy’n bodoli eisoes.
Rhaid i drwch inswleiddiad waliau allanol beidio â bod yn fwy na 16cm. Os yw trwch inswleiddiad waliau allanol yn fwy na 16cm, bydd angen caniatâd cynllunio. Os ydych yn byw mewn Ardal Gadwraeth, Parc Cenedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu Safle Treftadaeth y Byd, bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi taflen a all eich helpu i ystyried y materion sy’n gysylltiedig â gosod inswleiddiad solet ar waliau allanol eich cartref.
Canllaw i ddeiliaid tai
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.