Nid oes angen caniatâd cynllunio o reidrwydd i weithio gartref. Y prawf allweddol yw a fydd cymeriad cyffredinol yr annedd yn newid o ganlyniad i’r busnes.
Os ‘bydd’ yw’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau isod, mae’n debyg y bydd angen caniatâd arnoch:
- a fydd eich cartref yn peidio â chael ei ddefnyddio’n bennaf fel lle byw preifat?
- a fydd eich busnes yn arwain at gynnydd amlwg mewn traffig neu yn nifer y bobl a fydd yn galw?
- a fydd eich busnes yn cynnwys unrhyw weithgareddau sy’n anarferol mewn ardal breswyl?
- a fydd eich busnes yn tarfu ar eich cymdogion ar adegau afresymol neu’n creu mathau eraill o niwsans, megis sŵn neu arogleuon?
Pa fusnes bynnag y byddwch yn ei gynnal gartref – pa un a yw’n golygu defnyddio ystafell yn swyddfa bersonol, darparu gwasanaeth gwarchod plant, trin gwallt, gwneud dillad, rhoi gwersi cerddoriaeth, neu ddefnyddio adeiladau yn yr ardd i storio nwyddau sy’n gysylltiedig â busnes – dyma’r prawf allweddol: a yw’r annedd yn parhau’n gartref yn bennaf ynteu a yw wedi troi’n safle busnes?
Os nad ydych yn siŵr, gallwch wneud cais i’ch Awdurdod Cynllunio Lleol am Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon ar gyfer y gweithgarwch arfaethedig, er mwyn cadarnhau nad yw’n newid defnydd a’i fod yn parhau’n ddefnydd cyfreithlon.