Paneli solar a roddir ar doeau a waliau
Mewn llawer o achosion mae'n debygol y bydd gwaith gosod paneli solar ar do un tŷ annedd yn cael ei ystyried yn waith datblygu a ganiateir dan gyfraith cynllunio, heb fod angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer.
Fodd bynnag, mae yna amodau ac eithriadau pwysig y mae’n rhaid eu parchu.
Mae’r hawliau datblygu a ganiateir hyn yn berthnasol i dai. Os ydych yn byw mewn fflat ac yn ystyried gosod paneli solar, fe’ch cynghorir i gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn am gyfarwyddyd.
Mae’r amodau a ganlyn yn berthnasol i baneli solar a roddir ar doeau a waliau:
- Cyhyd ag y bo’n ymarferol, dylid lleoli’r paneli mewn man sy’n golygu eu bod yn cael cyn lleied o effaith ag y bo modd ar olwg yr adeilad.
- Cyhyd ag y bo’n ymarferol, dylid eu lleoli mewn man sy’n golygu eu bod yn cael cyn lleied o effaith ag y bo modd ar amwynder yr ardal.
- Dylid eu tynnu cyn gynted ag y bo modd pan na fydd eu hangen bellach i ficrogynhyrchu ynni.
- Ni ddylid eu gosod uwchlaw llinell crib y to ac ni ddylent ymwthio mwy na 200mm o wyneb y to neu’r wal.
- Os yw’ch eiddo’n adeilad rhestredig, bydd angen caniatâd cynllunio arnoch ac mae’n debygol y bydd angen gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith gosod.
- Os yw’ch eiddo mewn ardal gadwraeth neu Safle Treftadaeth y Byd, bydd angen caniatâd cynllunio os bwriedir gosod paneli ar waliau prif wedd neu dalcen yr adeilad ac os bydd modd eu gweld o’r briffordd. Os bwriedir gosod paneli ar adeilad yn eich gardd neu ar eich tir, dylech sicrhau nad oes modd eu gweld o’r briffordd.
Os yw paneli solar yn cael eu gosod ar do fflat, rhaid cydymffurfio â’r amodau isod:
- ni cheir lleoli paneli o fewn 1 metr i ymyl allanol y to
- ni chaiff paneli ymwthio mwy nag 1 metr uwchben plân y to
Paneli solar sy’n sefyll ar eu pen eu hunain
Mae paneli solar sy’n sefyll ar eu pen eu hunain yn waith datblygu a ganiateir, cyhyd â’u bod yn cydymffurfio â’r amodau a ganlyn:
- cyhyd ag y bo’n ymarferol, dylid lleoli’r panel mewn man sy’n golygu ei fod yn cael cyn lleied o effaith ag y bo modd ar amwynder yr ardal
- dim ond un panel solar sy’n sefyll ar ei ben ei hun a ganiateir
- ni chaiff unrhyw ran o’r panel fod yn uwch na 4 metr
- os yw’r panel o fewn 5 metr i ffin yr eiddo, ni chaiff fod yn uwch na 2 fetr
- ni ddylai’r panel fod o fewn 5 metr i’r briffordd
- ni chaiff unrhyw un o fesuriadau’r panel fod yn fwy na 3 metr
- ni chaiff arwynebedd y panel fod yn fwy na 9 metr sgwâr
- dylid eu tynnu cyn gynted ag y bo modd pan na fydd eu hangen bellach i ficrogynhyrchu ynni.
Dileu hawliau datblygu a ganiateir
Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith.
Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr.
Canllaw i ddeiliaid tai
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.