Neidio i'r prif gynnwy

Ni fydd angen caniatâd cynllunio fel rheol pan fyddwch yn gosod system microgynhyrchu gwres a phŵer cyfun mewn tŷ, os yw'r gwaith i gyd yn waith mewnol. Fodd bynnag, os oes angen gosod ffliw y tu allan, bydd fel rheol yn waith datblygu a ganiateir os caiff yr amodau a restrir isod eu bodloni:

  • Ni ddylai'r ffliwiau ymestyn uwchlaw rhan uchaf y to.
  • Os yw'r adeilad wedi'i restru neu os yw mewn ardal ddynodedig, byddai'n ddoeth ymgynghori â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol cyn gosod ffliw, hyd yn oed os gallwch fanteisio ar hawliau datblygu a ganiateir. Mae'n debygol hefyd y bydd angen caniatâd ar gyfer newidiadau mewnol.

Os oes ar y prosiect angen adeilad allan hefyd i storio tanwydd neu offer cysylltiedig, bydd y rheolau sy'n berthnasol i'r adeilad hwnnw yr un fath â'r rhai sy'n berthnasol i estyniadau eraill ac adeiladau allan mewn gerddi.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am y drefn gynllunio ac estyniadau.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am y drefn gynllunio ac adeiladau allan.