Mae ychwanegu heulfan i'ch tŷ yn cael ei drin yn yr un ffordd ag ychwanegu estyniad un llawr ac mae'r un rheolau’n berthnasol. Ystyrir bod heulfan yn ddatblygiad a ganiateir, nad oes angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer, yn amodol ar y terfynau a'r amodau isod:
- Ni chaiff yr heulfan estyn y tu hwnt i wal sy’n rhan o brif wedd y tŷ annedd gwreiddiol. Mae canllawiau ar yr hyn a olygir wrth brif wedd i’w gweld yn y canllaw i ddeiliaid tai.
- Ni cheir gorchuddio mwy na hanner arwynebedd y tir o amgylch y tŷ gwreiddiol â heulfan.
- Ni chaiff yr heulfan fod yn uwch na bargod y tŷ annedd gwreiddiol.
- Os yw’ch heulfan o fewn 2 fetr i ffin eich tŷ, ni chaiff bargod yr heulfan fod yn uwch na 3 metr.
- Nid yw heulfannau’n waith datblygu a ganiateir o fewn cwrtil adeilad rhestredig.
- Ni chaiff eich heulfan fod yn hirach nac yn uwch na 4 metr.
- O ran heulfannau ar ochr tŷ, ni chaiff lled eich heulfan fod yn fwy na hanner lled y tŷ annedd gwreiddiol.
- Mae cyfyngiadau ychwanegol ar faint heulfannau ar ochr tai mewn ardaloedd cadwraeth, parciau cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu Safleoedd Treftadaeth y Byd. Ni chânt ymestyn am fwy na 3 metr o ochr y tŷ annedd gwreiddiol a rhaid iddynt gael eu gosod o leiaf 1 metr yn ôl o brif ochr yr annedd gwreiddiol.
Sylwer: mae'r lwfansau datblygiad a ganiateir a ddisgrifir yma yn gymwys i dai ac nid i fflatiau, maisonettes nac adeiladau eraill. Mae canllawiau ar fflatiau a maisonettes i’w gweld yma.
Os bwriedir gwneud gwaith i adeilad rhestredig, efallai y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig. Dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn am ragor o gyngor.
Os yw’ch datblygiad dros 100 metr sgwâr, mae’n bosibl y caiff taliad ei godi arno o dan yr Ardoll Seilwaith Cymunedol.
Dileu hawliau datblygu a ganiateir
Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith.
Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr.
Canllaw i ddeiliaid tai
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.
* Ystyr y term "tŷ gwreiddiol" yw’r tŷ fel y cafodd ei adeiladu gyntaf neu fel yr oedd ar 1 Gorffennaf 1948 (os cafodd ei adeiladu cyn y dyddiad hwnnw). Er nad ydych chi efallai wedi adeiladu estyniad i’r tŷ, gallai perchennog blaenorol fod wedi gwneud hynny.
* Mae tir dynodedig yn cynnwys parciau cenedlaethol a’r Broads, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ardaloedd cadwraeth a Safleoedd Treftadaeth y Byd.