Neidio i'r prif gynnwy

Efallai y bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd hysbysebu os byddwch am arddangos hysbyseb sy’n fwy na 0.3 metr sgwâr (neu hysbyseb o unrhyw faint os yw’n cael ei goleuo) ar du blaen eich eiddo neu’r tu allan iddo (boed yn dŷ neu’n safle busnes). Ni chaiff unrhyw ran o’r hysbyseb fod yn fwy na 4.6 metr uwchlaw lefel y tir.

Felly, nid yw’n debygol y bydd angen caniatâd arnoch ar gyfer arwydd bach sy’n dangos rhif neu enw’ch tŷ/adeilad, neu hyd yn oed arwydd sy’n rhybuddio bod ci ar y safle.

Ceir hefyd arddangos am gyfnod byr hysbysiadau dros dro sydd hyd at 0.6 metr sgwâr ac sy’n ymwneud â digwyddiadau lleol megis cyngherddau a phartïon stryd. Mae rheolau gwahanol ar gyfer byrddau gwerthwyr tai, ond yn gyffredinol, ni ddylai’r rhain fod yn fwy na 0.5 metr sgwâr.

Mae’r drefn gynllunio ar gyfer hysbysebion proffesiynol, mwy o faint ac arwyddion busnesau ac ati yn gymhleth, ond rhaid i bob hysbyseb sydd yn yr awyr agored gydymffurfio â phum amod safonol.

Rhaid iddynt:

  • gael eu cadw’n lân ac yn daclus
  • cael eu cadw mewn cyflwr diogel
  • cael caniatâd perchennog y safle lle maent yn cael eu harddangos (mae hynny’n cynnwys yr Awdurdod Priffyrdd os bwriedir gosod yr arwydd ar dir priffordd)
  • peidio â chuddio arwyddion swyddogol ffyrdd, rheilffyrdd, dyfrffyrdd neu awyrennau, atal pobl rhag eu deall, neu olygu am resymau eraill fod y mathau hynny o drafnidiaeth yn beryglus i’w defnyddio
  • cael eu symud oddi yno’n ofalus os bydd hynny’n ofynnol gan yr awdurdod cynllunio.

Cyn gwneud cais am ganiatâd hysbysebu, dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn iddo gadarnhau’n ffurfiol a fydd angen caniatâd o’r fath ar gyfer eich arwydd.