Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Disodlodd y dreth trafodiadau tir dreth tir y dreth stamp yng Nghymru o fis Ebrill 2018 ac fe'i cesglir gan Awdurdod Cyllid Cymru. Defnyddir y dreth a gesglir i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Gall y gyfrifiannell hon eich helpu i weithio allan faint o Dreth Trafodiadau Tir (TTT) y bydd angen i chi ei thalu os byddwch yn prynu eiddo neu dir dros bris penodol yng Nghymru.
Ceir gwahanol gyfraddau a bandiau trethi ar gyfer gwahanol fathau o eiddo. Gweinidogion Cymru sy'n pennu'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir. Maent yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon os ydych wedi cyflwyno ffurflen Treth Trafodiadau Tir gywir ond eich bod wedi talu mwy i ni nag y dylech fod wedi’i dalu.
Canllawiau i weithwyr treth proffesiynol ar y newid i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir (TTT), beth mae hyn yn ei olygu o ran ffeilio ffurflen dreth, a ble i gael mwy o wybodaeth a chymorth.
Mae asiantau’n rhoi’r hysbysiad preifatrwydd data treth hwn i gleientiaid er mwyn iddynt wybod pa wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu a’i phrosesu yn ACC.