Darganfyddwch pryd a sut i dalu Treth Trafodiadau Tir (TTT) i Awdurdod Cyllid Cymru.
Cynnwys
Pryd i dalu
Unwaith y bydd ffurflen Treth Trafodiadau Tir wedi cael ei chyflwyno, mae angen i'r trethdalwr neu ei gynrychiolydd dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus.
Rhaid i chi dalu o fewn 30 diwrnod i'r diwrnod ar ôl y dyddiad y daw'r trafodiad i rym. Y dyddiad cwblhau yw’r dyddiad y daw’r trafodiad i rym fel arfer.
Sut i dalu
Ar ôl i chi gyflwyno’ch ffurflen i wneud taliad, bydd angen i chi ddefnyddio naill ai eich:
- rhif Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (CTU) 12 digid o’ch cyfrif ar-lein
- cyfeirnod talu fel y nodir isod
Os byddwch yn cyflwyno ffurflen bapur, ni fydd gennych CTU hyd nes bod eich ffurflen dreth yn cael ei phrosesu. Defnyddiwch un o'r canlynol fel eich cyfeirnod talu:
- cod post y tir\cyfenw’r prynwr
- cod post y tir\enw sefydliad y brynwr
Er enghraifft - CF379EH\Bloggs
Ffyrdd o dalu
Taliadau digidol
Gallwch dalu drwy:
- Daliadau Cyflymach
- CHAPS
- Bacs (rhaid derbyn y taliad 4 diwrnod gwaith cyn dyddiad mae’n ddyledus)
Mae angen i chi:
- ddefnyddio eich CTU (neu gyfeirnod talu os ydych yn ffeilio ar bapur)
- gwirio fod y taliad yn cyfateb i'r union swm a ddangosir ar y ffurflen dreth
- gwneud taliad ar wahân ar gyfer pob ffurflen dreth
Dylid gwneud taliadau i gyfrif banc Awdurdod Cyllid Cymru:
Enw'r cyfrif | Welsh Revenue Authority Tax |
---|---|
Cod didoli | 60 70 80 |
Rhif y cyfrif | 10028838 |
Banc | Royal Bank of Scotland |
Cyfeiriad | Government Banking CST Parklands De Havilland Way Horwich Bolton BL6 4YU |
Taliadau tramor
Defnyddiwch y manylion hyn i dalu o gyfrif tramor:
Rhif y cyfrif (IBAN) | GB46NWBK60708010028838 |
---|---|
Cod Adnabod Banc (BIC) | NWBKGB2L |
Taliadau gyda siec
I dalu gyda siec:
- gwnewch yn siec yn daladwy i 'Awdurdod Cyllid Cymru'
- nodwch y CTU neu'r cyfeirnod talu (os ydych yn ffeilio ar bapur) ar gefn y siec
- rhaid ei dderbyn 10 diwrnod gwaith cyn y dyddiad mae’r taliad yn ddyledus
- rhaid bod digon o arian i dalu’r swm yn y cyfrif y telir ohono pan fyddwn yn derbyn y siec
Os na fyddwch yn dilyn yr uchod, efallai y codir llog a chosbau arnoch am dalu'n hwyr.
Anfonwch sieciau i:
Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Post 110
Pontypridd
CF37 9EH
Cymorth a chefnogaeth
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am dalu neu os oes angen help arnoch, cysylltwch â ni.