Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i'ch helpu i weithio allan faint o Dreth Trafodiadau Tir (TTT) y bydd angen i chi ei dalu o bosib os fyddwch chi'n prynu eiddo neu dir yng Nghymru.
Ar gyfer eiddo preswyl, bydd angen i chi wybod ai prif gyfraddau neu gyfraddau uwch TTT sy’n berthnasol.
Mae'r gyfrifiannell hon yn gweithio ar gyfer y rhan fwyaf o drafodiadau.
Efallai y bydd angen cyfrifiadau gwahanol arnoch ar gyfer hawlio rhyddhad treth penodol. Er enghraifft, prynu mwy nag un eiddo (anheddau lluosog).
Ar gyfer achosion mwy cymhleth, neu os ydych chi'n ansicr o ran sut mae'r dreth yn berthnasol:
- gallwch wirio gyda chyfreithiwr neu drawsgludwr
- defnyddiwch ein canllawiau ar gyfer gweithwyr treth proffesiynol
Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru