Neidio i'r prif gynnwy

Gallwch wneud cais ar-lein os ydych yn credu fod gennych hawl i ad-daliad Treth Trafodiadau Tir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwneud cais am ad-daliad

Gallwch hawlio ad-daliad os ydych:

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, gall gymryd 15 i 20 diwrnod gwaith i'w phrosesu. Gall gymryd mwy o amser os byddwn angen rhagor o wybodaeth neu os caiff yr ad-daliad ei hawlio 12 mis neu fwy ar ôl i chi brynu’r eiddo.

Os nad oedd gennych hawl i ad-daliad, bydd rhaid i chi ad-dalu’r dreth yn ogystal ag unrhyw log sy’n ddyledus. Gallwch gael dirwy am gyflwyno diwygiad sy’n anghywir. Canllawiau pellach ar gosbau.

Pryd y gallwch hawlio ad-daliad

Os y gwnaethoch brynu eich eiddo neu dir lai na 12 mis yn ôl

Gallwch ddiwygio'ch ffurflen dreth TTT hyd at 12 mis o'r dyddiad ffeilio er mwyn hawlio ad-daliad. Gwneir yr ad-daliad yn dilyn eich diwygiad.

Nid yw hyn yn golygu ein bod yn cytuno â'r rheswm dros eich ad-daliad. Gallwn ysgrifennu atoch i fynegi unrhyw bryderon sydd gennym ynglŷn â’ch diwygiad. Mae gennym 12 mis o'r adeg y gwnaethoch ddiwygio eich ffurflen i agor ymholiad er mwyn ei gwirio.

Os y gwnaethoch brynu eich eiddo neu dir dros 12 mis yn ôl

Ni allwch ddiwygio eich ffurflen dreth, ond gallwch wneud cais am ad-daliad. Fel arfer, rhaid i chi wneud hyn o fewn 4 blynedd i’r pryniant, gan ddweud wrthym pam eich bod yn meddwl eich bod wedi gordalu.

Gallwn wirio'ch hawliad cyn ei ad-dalu a gallwn ysgrifennu atoch os nad yw'n edrych yn gywir. Os byddwch yn dymuno parhau â’r hawliad, gallwn agor ymholiad a gwirio a yw’n gywir. Mae gennym 12 mis i agor ymholiad, gan ddechrau o'r diwrnod ar ôl i chi ei gyflwyno.

Os bydd ad-daliad yn ddyledus, bydd yn cael ei brosesu ar ôl i ni orffen ein gwiriad.

Diwygiadau

Os ydych angen newid unrhyw beth arall ar eich ffurflen dreth, gallwch ddefnyddio'r ffurflen ddiwygio eich ffurflen dreth ar-lein.

Cymorth

Os ydych chi'n ansicr a allwch wneud cais am ad-daliad neu eich bod angen ffurflen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.