Pryd a pham y gallai ACC wirio a yw swm y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) neu'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) yr ydych yn ei dalu yn gywir.
Cynnwys
Overview
Ein nod yw sicrhau bod y system dreth yng Nghymru yn deg, er mwyn eich helpu i dalu'r swm iawn o dreth ar yr adeg iawn.
Rydym yn gwybod fod y rhan fwyaf o'r ffurflenni treth TTT a TGT wedi'u ffeilio'n gywir a bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu. Ond weithiau mae angen i ni wirio ffurflenni ar ôl iddynt gael eu cyflwyno. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni:
- ddeall eich trafodiad yn fwy manwl
- gwneud yn siwr ei bod yn gywir
- gwneud yn siwr bod y system dreth yn gweithio fel y dylai
Efallai y byddwn yn gofyn i chi:
- am swm y dreth a nodir yn eich ffurflen dreth, neu
- pam nad ydym wedi derbyn ffurflen dreth
Yna gellir cyfrifo eich sefyllfa dreth gywir drwy:
- benderfyniad
- asesiad
- ymholiad
Penderfyniad: os na fyddwch yn cyflwyno ffurflen dreth
Os na fyddwch yn ffeilio'ch ffurflen dreth erbyn y dyddiad cau, efallai y byddwn yn amcangyfrif faint o dreth y mae'n rhaid i chi ei thalu. Gelwir hyn yn 'benderfyniad'.
Gellir gwneud penderfyniad hyd at 4 blynedd yn unig ar ôl eich dyddiad ffeilio perthnasol.
Asesiad: os yw'r dreth wedi’i hasesu’n anghywir
Os ydym yn credu eich bod wedi hunan-asesu'n anghywir, efallai y byddwn yn gwneud asesiad ar gyfer y swm cywir o dreth yr ydym yn credu sy'n ddyledus.
Gellir cyhoeddi asesiad o dan yr amgylchiadau canlynol:
- pan fo’r sefyllfa wedi’i hachosi’n ddiofal neu'n fwriadol,
- lle mae’r amser i ni ymholi wedi dod i ben ac na fyddem wedi gallu disgwyl colli treth ar sail y wybodaeth oedd ar gael
- mewn perthynas â’r Rheol Gwrthweithio Osgoi Trethi Cyffredinol
- mewn perthynas â chredyd treth.
Rhaid cyhoeddi asesiadau o fewn terfynau amser penodol.
Am fwy o wybodaeth am asesiadau, gweler ein canllawiau technegol.
Ymholiad: unrhyw beth i'w wneud â ffurflen dreth
Efallai y bydd angen i chi ddarparu mwy o wybodaeth am eich ffurflen dreth.
Nid yw hyn bob amser yn golygu bod problem gyda'ch ffurflen gan ein bod efallai’n cynnal hapwiriadau.
Agor ymholiad
Rhaid i ni ddweud wrthych chi pan fyddwn ni’n agor yr ymholiad. Os ydych wedi awdurdodi asiant i weithredu ar eich rhan, byddwn yn rhoi gwybod iddyn nhw hefyd.
Gall ymholiad agor o fewn 12 mis i'r dyddiad:
- yr oedd y ffurflen dreth i fod i gael ei chyflwyno
- y cawsom y ffurflen (os y cafodd ei chyflwyno'n hwyr)
- y gwnaethoch ddiwygio eich ffurflen
Yn ystod ymholiad
Byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth yn ystod ymholiad. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn ymweld â'ch eiddo neu'ch safle busnes.
Os yw swm y dreth a nodir yn y ffurflen dreth yn is nac y dylai fod, efallai y cewch gyfle i ddiwygio eich ffurflen er mwyn dangos y dreth ychwanegol sy'n ddyledus.
Os ydych chi'n ansicr ynglŷn â pham yr ydych chi’n cael eich holi am rywbeth, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i egluro.
Cau ymholiad
Pan fyddwn yn cau'r ymholiad, byddwn yn eich hysbysu o’n penderfyniad drwy hysbysiad cau. Bydd hyn yn cadarnhau bod naill ai:
- dim angen gwneud unrhyw newidiadau i'ch ffurflen dreth
- y bydd newidiadau'n cael eu gwneud i'ch ffurflen dreth er mwyn dangos unrhyw wahaniaeth yn swm y dreth sy'n ddyledus
Anghytuno â phenderfyniad treth
Os ydych chi'n anhapus gyda'n penderfyniad, gallwch:
- ofyn i ni ei adolygu
- apelio i’r tribiwnlys treth
Os nad ydych yn deall sut y gwnaethom ein penderfyniad, gallwch gysylltu â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i egluro. Gallwch hefyd geisio cyngor cyfreithiol.
Mwy o wybodaeth
Dim ond crynodeb yw hwn o sut yr ydym yn gwneud yn siŵr bod swm y dreth y byddwch yn ei thalu’n gywir. Am fwy o wybodaeth am asesiadau ac ymholiadau ACC, ewch i’n canllawiau technegol.