Fel cyfreithiwr neu drawsgludydd, defnyddiwch y gyfrifiannell hon i’ch helpu i gyfrifo'r dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau os ydych yn hawlio rhyddhad anheddau lluosog (MDR).
Gellir hawlio'r rhyddhad os yw trethdalwr yn prynu mwy nag un annedd yng Nghymru gan yr un gwerthwr naill ai mewn un trafodiad gyda'r un dyddiad dod i rym neu mewn nifer o drafodiadau cysylltiol (anheddau lluosog).
Mae angen i chi wybod:
- os mai prif gyfraddau neu gyfraddau uwch y dreth sy’n berthnasol
- cyfanswm y pris prynu ar gyfer pob annedd
- nifer yr anheddau dan sylw
Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru
Ar gyfer achosion mwy cymhleth, neu os nad ydych yn siŵr sut mae'r dreth neu'r rhyddhad yn berthnasol:
- defnyddiwch ein canllawiau technegol MDR
- gwyliwch ein fideos esboniadol byr ar gyfrifo gydag MDR
- gallwch gysylltu â ni
Dylid defnyddio'r gyfrifiannell hon fel canllaw yn unig. Cyfrifoldeb y trethdalwr o hyd yw sicrhau eu bod yn hunanasesu'n gywir y dreth sydd i'w thalu.
Defnyddio porwyr ar gyfer gwasanaethau ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru