Rhowch wybod am amheuaeth o ymddygiad osgoi neu efadu treth o ran y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) neu’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT).
Rhowch wybodaeth am y person neu'r busnes rydych yn adrodd amdano.
Gallai hyn gynnwys:
- eu henw
- eu cyfeiriad
- y math o osgoi neu efadu yr ydych yn meddwl eu bod yn ei gyflawni
Nid oes rhaid i chi roi eich enw na'ch manylion cyswllt oni bai eich bod am wneud hynny.
Os oes angen i chi wneud.
Gwybodaeth bwysig
- Peidiwch â cheisio cael gwybod mwy am osgoi neu’r efadu treth neu roi gwybod i unrhyw un eich bod yn gwneud adroddiad.
- Os ydych yn teimlo bod eich diogelwch personol mewn perygl, ffoniwch yr heddlu.
- Ni allwn roi adborth i chi ac nid ydym yn gweithredu ar eich rhan.
- Efallai y byddwn yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill.
Adrodd ar-lein
Datgeliad gwirfoddol
Os oes gennych rywbeth o'i le ar eich ffurflen dreth o ganlyniad i gynllun osgoi neu efadu, ffoniwch ni ar 03000 254 000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Ffyrdd eraill o adrodd
Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL
Rhif ffôn: 03000 254 000
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
(Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am hyd 3pm)
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler ein polisi preifatrwtdd i gael gwybod sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi.
Cymorth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n tîm desg gymorth ar 03000 254 000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.