Defnyddiwch y rhestr wirio hon i'ch helpu i benderfynu pa wybodaeth i'w chynnwys pan fyddwch yn gofyn am opiniwn treth.
Yn eich cais, dylech ddilyn y drefn a osodir ar y dudalen hon a chynnwys y rhifau cysylltiedig ar unrhyw ddogfennau ategol.
1. Ynglŷn â'r sawl sy'n gwneud y cais
- Eich enw a'ch cyfeiriad
Os ydych yn gweithredu fel asiant neu'n cynrychioli trethdalwr, rhowch
- eu henw a'u cyfeiriad
- copi o fandad a lofnodwyd gan eich cleient yn cadarnhau eich awdurdod i weithredu ar ei ran
Hyd nes y cawn ni hwn, ni allwn ohebu â chi.
- Amlinelliad byr o'r cais.
2. Ynglŷn â'r trafodiadau neu’r gweithgaredd treth
- Y trethi y mae'r cais yn cyfeirio atynt.
- Y rhesymau dros ymgymryd â'r trafodiad neu weithgaredd neu'r amgylchiadau y gofynnir am opiniwn treth arnynt.
- Rhowch ffeithiau am y trafodiad neu'r gweithgaredd fel bod gennym yr holl wybodaeth ar gyfer darparu ein hymateb. Dylech gynnwys copïau o'r holl ddogfennau ategol.
- Dywedwch wrthym beth ddylai'r dreth fod yn eich barn chi a'r materion yr ydych am i ni eu hystyried.
- Dyddiad arfaethedig y trafodiad neu'r gweithgaredd.
- Gwerth ariannol y trafodiad neu'r gweithgaredd.
3. Ynglyn â phwyntiau cyfreithiol
- Amlinellwch y ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'r cais yn eich barn chi.
- Eglurwch pam eich bod yn credu bod modd dehongli’r ddeddfwriaeth mewn gwahanol ffyrdd. Dylech:
- roi crynodeb o'r gwahanol ddehongliadau hynny
- egluro pam fod y canlyniadau treth yn ansicr, gan gynnwys cyfeiriad at ein canllawiau cyhoeddedig a chyfraith achosion
- Rhoi copïau o unrhyw gyngor cyfreithiol rydych eisoes wedi'i gael yr ydych yn fodlon ei ddatgelu.
- Dweud wrthym a ydych wedi gofyn i ni ynglŷn â’r trafodiad hwn, neu un tebyg o'r blaen.
Sut i gyflwyno eich cais am opiniwn
Defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein ac uwchlwythwch eich atodiadau, neu postiwch at:
Opiniynau Treth Awdurdod Cyllid Cymru
Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL