Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i fewngofnodi a ffeilio ffurflen Treth Trafodiadau Tir (TTT) ar-lein fel cyfreithiwr neu drawsgludydd.
Mewngofnodwch er mwyn:
- ffeilio ffurflenni ar-lein
- gweld ffurflenni a gyflwynwyd
- cynhyrchu tystysgrifau TTT
Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru
Cyn i chi ddechrau
O 12 Rhagfyr 2024, bydd yn rhaid i chi gwblhau’r maes ‘Cyfeirnod achos’ o dan ‘Manylion asiant y prynw r’ pan yn ffeilio ffurflen dreth.
Bydd angen i chi a'ch sefydliad gofrestru ar gyfer ffeilio TTT ar-lein cyn y byddwch yn gallu defnyddio'r gwasanaeth hwn.
Os yw'ch sefydliad eisoes wedi cofrestru, ond nad oes gennych eich manylion mewngofnodi eich hun, dylech greu gyfrif defnyddiwr newydd.
Efallai y byddwch am ddefnyddio ein gwiriwr i weld a yw cod post wedi'i leoli yng Nghymru ar gyfer y TTT.
Trethdalwyr sy’n ffeilio heb gyfreithiwr neu drawsgludydd
Os nad ydych yn defnyddio cyfreithiwr neu drawsgludydd, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen bapur a thalu'r dreth eich hun.
I gael ffurflen bapur, e-bostiwch cyswllt@acc.llyw.cymru neu ddefnyddio ffyrdd eraill o gysylltu â ni. Er mwyn anfon y ffurflenni cywir, dywedwch wrthym os oes:
- mwy na 2 brynwyr
- mwy na 2 werthwr
- mwy nag un darn o dir
Rhowch eich dewis iaith pan fyddwch yn cysylltu. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Defnyddio e-bost i ohebu ynglŷn â threth
Cymorth
Os fyddwch yn anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ailosod ar y dudalen fewngofnodi.
Os oes angen help arnoch gydag unrhyw un o'r prosesau hyn, cysylltwch â ni.
Defnyddio porwyr ar gyfer gwasanaethau ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru