Mae cyfraddau Treth Trafodiadau Tir (TTT) gwahanol os ydych yn prynu neu'n lesu eiddo neu dir amhreswyl neu ddefnydd cymysg yng Nghymru.
Cynnwys
Trosolwg
Mae faint rydych chi'n ei dalu yn dibynnu ar a yw'n eiddo:
- preswyl
- amhreswyl
- defnydd cymysg
Mae'r swm yr ydych yn ei dalu’n seiliedig ar y cyfraddau a bandiau TTT a bennir gan Lywodraeth Cymru.
Eiddo amhreswyl a defnydd cymysg
Ystyr amhreswyl yw unrhyw dir ac adeiladau nad ydynt yn eiddo preswyl.
Mae eiddo amhreswyl yn cynnwys:
- siopau
- swyddfeydd
- tir amaethyddol (tir fferm gweithredol)
- tir moel
Mae tir neu eiddo amhreswyl yn debygol o fod wedi cael ei ddefnyddio’n fasnachol gan beiriannau neu ar gyfer busnes.
Mae gan eiddo 'cymysg' (a elwir hefyd yn eiddo defnydd cymysg) elfennau preswyl ac amhreswyl.
Er enghraifft:
- adeilad sy'n cynnwys siop a fflat
- tŷ gyda meddygfa
- fferm weithredol gyda thir sydd wedi'i ffermio er budd masnachol
Pryd fydd cyfraddau amhreswyl yn berthnasol?
Os ydych yn prynu eiddo neu dir amhreswyl neu ddefnydd cymysg, byddwch yn talu'r cyfraddau treth amhreswyl.
Ar gyfer lesoedd trethadwy, rydych yn talu'r canlynol:
- y cyfraddau rhent amhreswyl ar gyfer elfen rhent y les
- y cyfraddau treth amhreswyl ar gyfer y premiwm
Pan nad yw cyfraddau amhreswyl yn berthnasol
Mae trafodiad yn debygol o fod yn drafodiad preswyl os, ar y dyddiad dod i rym, mae'r tir a brynwyd:
- yn rhan o ardd neu diroedd annedd
- er budd annedd
Er enghraifft, bwthyn gyda chae bychan neu stablau at ddefnydd personol.
Nid yw bob amser yn glir a yw'r canlynol yn breswyl, amhreswyl neu ddefnydd cymysg:
- adeiladau adfeiliedig
- gwely a brecwast (B&Bs), tai llety neu dai gwyliau
- llety myfyrwyr
Er mwyn eich helpu i benderfynu, ewch i’n canllawiau ar 'a yw'r adeilad yn annedd'.
Sut i benderfynu a yw tir yn amhreswyl
Yn y rhan fwyaf o achosion, os byddwch yn prynu tir sydd ynghlwm wrth annedd, bydd yn ardd a thiroedd yn ei wneud yn dir preswyl. Y prif eithriad i hyn yw tir fferm gweithredol.
Er mwyn penderfynu a yw tir sydd ynghlwm wrth annedd yn breswyl neu'n amhreswyl, mae angen i chi ystyried a yw wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer busnes neu fasnach.
Mae gennym brofion i'ch helpu i benderfynu a yw tir yn amhreswyl.
Dylai’r profion hyn gael eu cymhwyso i'r gwerthwr, hyd at a chan gynnwys y dyddiad dod i rym.
Nid yw'r sefyllfa bob amser yn glir ar gyfer tir sydd â:
- hawliau tramwy
- hawddfreintiau
- rhan ohono wedi'i ffensio
Er mwyn eich helpu i benderfynu, ewch i’n canllawiau ar erddi a thiroedd.
Faint fyddwch yn ei dalu
Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth i'ch helpu i weithio allan faint y byddwch yn ei dalu unwaith y byddwch wedi penderfynu a yw'n eiddo:
- preswyl
- amhreswyl
- defnydd cymysg
Er mwyn talu'r swm cywir o dreth, rhaid i chi hefyd ddewis y math cywir o eiddo wrth lenwi'ch ffurflen dreth.
Cymorth a chefnogaeth
I gael eglurhad manylach neu os ydych yn ansicr ynglŷn â sut mae'r dreth yn berthnasol:
- defnyddiwch ein canllawiau dehongli
- gwyliwch ein fideo byr yn esbonio defnydd cymysg
- efallai y byddwch am holi cyfreithiwr neu drawsgludwr
- gallwch gysylltu â ni