Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Os bwriedir gosod system wresogi neu system ddŵr poeth newydd yn lle hen un, efallai na fydd angen gwneud cais, ac os bydd angen gwneud hynny, efallai na fydd yn angenrheidiol gwneud cais cyn cyflawni'r gwaith.
Pe bai dros 25 y cant o nenfwd islaw atig oer neu do gwastad yn cael ei dynnu i ffwrdd a phe bai nenfwd newydd yn cael ei osod yn ei le, byddai rheoliadau adeiladu fel rheol yn berthnasol a byddai'n rhaid gwella deunydd inswleiddio thermol y nenfwd hwnnw.
Gallai'r rheoliadau adeiladu fod yn berthnasol i rai newidiadau defnydd sy'n ymwneud ag adeilad presennol, er eich bod efallai'n credu na fydd y gwaith sy'n rhan o'r prosiect yn cyfateb i 'Waith Adeiladu'.
Fel rheol, ni fydd angen cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu ar gyfer unrhyw waith addurno mewnol megis papuro waliau, gosod sgertins newydd neu baentio.
Ymdrinnir â gwaith dymchwel dan Ddeddf Adeiladu 1984. Yn gyffredinol bydd angen rhoi chwe wythnos o rybudd ymlaen llaw i Adran Rheoli Adeiladu'r Awdurdod Lleol, cyn dechrau ar y gwaith dymchwel.
Os byddwch am atgyweirio peipen law, twll archwilio neu ffitiad cysylltiedig sy’n bodoli eisoes, neu os byddwch am roi rhai newydd yn lle hen rai, ni fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu fel rheol os yw’r deunyddiau newydd a ddefnyddir yr un fath â’r hen rai.
Os ydych yn gwneud gwaith trydanol yn eich cartref neu’ch gardd yng Nghymru a Lloegr, bydd yn rhaid ichi ddilyn rheolau newydd yn y Rheoliadau Adeiladu.
Os byddwch am ailrendro waliau allanol neu roi cladin pren newydd arnynt yn lle hen gladin, gallai rheoliadau adeiladu fod yn berthnasol, yn dibynnu ar hyd a lled y gwaith.
Os byddwch am adeiladu wal fewnol newydd, dymchwel wal fewnol bresennol, neu greu agorfa mewn wal fewnol, bydd rheoliadau adeiladu'n berthnasol fel rheol.
At ei gilydd, ni fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i osod unedau a ffitiadau newydd mewn cegin neu ystafell ymolchi, ond efallai y bydd angen cymeradwyaeth dan y rheoliadau adeiladu ar gyfer gwaith draenio neu waith trydanol sy'n rhan o'r gwaith adnewyddu.
Os byddwch yn gwneud gwaith trydanol ac yn gosod goleuadau ar du allan eich cartref yng Nghymru a Lloegr, bydd yn rhaid ichi ddilyn rheolau rheoliadau adeiladu newydd.
Mae'r canllaw strategol ynghylch ffynonellau ynni rhad-ar-garbon neu ddi-garbon, sy'n dwyn y teitl 'Low or Zero Carbon Energy Sources: Strategic Guide (LZC)', o blaid cynnwys ffynonellau ynni rhad-ar-garbon neu ddi-garbon yn Rhan L y Rheoliadau Adeiladu a Dogfennau Cymeradwy L1A, L1B, L2A a 2B. Mae Pennod 4 yn ymdrin â systemau microgynhyrchu gwres a phŵer cyfun.
Os byddwch am godi adeiladau bach sydd ar eu pen eu hunain, megis sied neu hafdy yn eich gardd, ni fydd rheoliadau adeiladu yn berthnasol fel rheol os yw arwynebedd llawr yr adeilad yn llai na 15 metr sgwâr ac os NAD yw'n cynnwys lle cysgu.
Fel rheol bydd gwaith adeiladu portsh ar lefel y ddaear, y mae arwynebedd ei lawr dan 30 metr sgwâr, wedi'i eithrio rhag yr angen am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.
Fel rheol, os ydych am atgyweirio neu ailorchuddio llai na 25 y cant o arwynebedd to ar oleddf neu do gwastad, ni fydd angen ichi gyflwyno cais o safbwynt rheoliadau adeiladu.
Ni fydd rheoliadau adeiladu'n berthnasol yn gyffredinol, ond dylech ofalu bod yr antena'n cael ei gosod yn ddiogel a bod y pwynt lle caiff ei gosod yn sefydlog.
Mae'r rheoliadau yn diffinio bod addasu cartref yn siop yn 'newid defnydd o bwys', ac maent yn nodi'r gofynion y bydd yn rhaid i'r adeilad, neu ran berthnasol yr adeilad, gydymffurfio â nhw o ganlyniad i'r newid defnydd hwnnw.