Yn y canllaw hwn
1. Cyflwyniad
Os byddwch am godi adeiladau bach sydd ar eu pen eu hunain, megis sied neu hafdy yn eich gardd, ni fydd rheoliadau adeiladu yn berthnasol fel rheol os yw arwynebedd llawr yr adeilad yn llai na 15 metr sgwâr ac os NAD yw'n cynnwys lle cysgu.
Os yw arwynebedd llawr yr adeilad rhwng 15 metr sgwâr a 30 metr sgwâr, ni fydd angen ichi wneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu fel rheol os NAD yw'r adeilad yn cynnwys lle cysgu, ac os yw naill ai o leiaf un metr o unrhyw ffin neu os yw wedi'i adeiladu'n bennaf o ddeunyddiau nad ydynt yn llosgi.
Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth gyffredinol ichi i'ch helpu i gydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu pan fyddwch yn codi adeilad allan newydd o fewn ffiniau adeilad sy’n bodoli eisoes, megis:
- garej neu borth ceir
- hafdy neu sied
- tŷ gwydr
Fel rheol, byddai angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i godi garej newydd sydd ynghlwm wrth gartref sy’n bodoli eisoes.
Fel rheol, ni fyddai angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i godi porth ceir newydd sydd ynghlwm wrth gartref sy’n bodoli eisoes (ac y mae o leiaf ddwy ochr iddo'n agored), os yw arwynebedd ei lawr yn llai na 30 metr sgwâr.
Fel rheol, ni fyddai angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i godi garej sydd ar ei phen ei hun ac y mae arwynebedd ei llawr yn llai na 30 metr sgwâr:
- os yw arwynebedd llawr y garej sydd ar ei phen ei hun yn llai na 15 metr sgwâr
- os yw arwynebedd llawr y garej rhwng 15 metr sgwâr a 30 metr sgwâr, cyhyd â bod y garej o leiaf un metr o unrhyw ffin, neu'i bod wedi'i hadeiladu'n bennaf o ddeunyddiau nad ydynt yn llosgi
Os ydych am addasu garej sy'n rhan annatod o'r tŷ neu sydd ynghlwm wrtho er mwyn ei defnyddio'n lle i fyw ynddo, bydd rheoliadau adeiladu yn berthnasol fel rheol. Cliciwch yma i weld gwybodaeth benodol am addasu garej.
Mewn sawl achos, bydd y strwythurau hyn yn cael eu hesemptio rhag gorfod cael cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu os byddant yn bodloni meini prawf penodol.
Os yw'r Rheoliadau yn berthnasol i'r adeilad, rhaid iddo gael ei godi yn unol â safonau rhesymol.