Yn y canllaw hwn
1. Cyflwyniad
Os byddwch am ailrendro waliau allanol neu roi cladin pren newydd arnynt yn lle hen gladin, gallai rheoliadau adeiladu fod yn berthnasol, yn dibynnu ar hyd a lled y gwaith.
Os bydd 25 y cant neu fwy o wal allanol yn cael ei hailrendro, ei hailorchuddio, ei hailblastro neu'i hail-leinio'n fewnol, neu os bydd 25 y cant neu fwy o ddalen allanol wal yn cael ei hailgodi, bydd y rheoliadau fel arfer yn berthnasol a bydd yn rhaid gwella'r deunydd inswleiddio thermol.
Os byddwch am roi deunydd inswleiddio mewn wal geudod, bydd y gofynion priodol yn berthnasol er mwyn sicrhau bod y deunydd inswleiddio'n addas, ac yn achos rhai mathau o sbwng inswleiddio, er mwyn sicrhau bod unrhyw berygl y gallai nwy fformaldehyd ollwng yn cael ei asesu. Cliciwch yma i ddarllen mwy am inswleiddio.
Gellir adeiladu waliau mewn amryw ffyrdd drwy ddefnyddio strwythur fframwaith coed neu strwythur gwaith maen.
Os defnyddir strwythur gwaith maen, gellir defnyddio dau fath o adeiladwaith:
Wal geudod
Yma, ceir dwy haen o waith maen. Gall yr haen allanol gynnwys brics neu flociau, ac yn gyffredinol bydd yr haen fewnol yn cynnwys blociau.
Bydd y bwlch rhwng y ddwy haen yn amrywio'n ôl y math o ddeunydd inswleiddio y bwriedir ei ddefnyddio. Er mwyn atal y ddwy haen rhag ymwahanu, dylid eu clymu wrth ei gilydd gan ddefnyddio clymau waliau mewn mannau canolog priodol. Dylai'r clymau hyn allu gwrthsefyll rhwd.
Dylid llenwi gwaelod y ceudod â choncrit gwan o ran sment, sy'n gogwyddo tuag at yr haen allanol, neu dylid gosod padell wal geudod sydd hefyd yn gogwyddo tuag at yr haen allanol, er mwyn sicrhau bod unrhyw leithder a allai fynd i mewn i'r ceudod yn cael ei gyfeirio i ffwrdd o'r haen fewnol.
Wal solet
Dim ond un haen o waith maen a geir yma, a gall gynnwys brics neu flociau.
Mae'r safonau uchel o ran inswleiddio thermol y mae eu hangen mewn adeiladau'n golygu ei bod yn anos cyrraedd y safonau hynny wrth adeiladu waliau solet o waith maen. Gallai waliau solet o flociau fodloni'r gofynion pe baent yn cael eu cyfuno â deunyddiau inswleiddio eraill a gorffeniadau eraill i'w harwynebau.
Waliau allanol presennol mewn prosiectau addasu
Bydd angen gwirio'r waliau presennol i sicrhau eu bod yn ddigonol o ran yr agweddau canlynol:
- Pwysau (llwyth) a sefydlogrwydd strwythurol
- Y gallu i wrthsefyll y tywydd (gan gynnwys y cwrs atal lleithder)
- Gwydnwch thermol a newidiadau i 'elfennau thermol'.
Os bydd angen eu huwchraddio gallai fod yn ofynnol ychwanegu haen fewnol newydd, o stydwaith ysgafn efallai. Bydd angen cynllunio manylion gwaelod yr haen newydd yn ofalus, er mwyn sicrhau bod y trefniadau atal lleithder yn gadarn a bod unrhyw bren newydd yn cael ei amddiffyn rhag tamprwydd.
Rhagor o wybodaeth
Mae'r adrannau canlynol yn awgrymu rhai o'r elfennau y mae angen fel rheol iddynt fodloni gofynion y Rheoliadau ar gyfer waliau allanol:
- addurno ac adnewyddu
- diogelwch tân
- gwydnwch thermol a newidiadau i 'elfennau thermol'
- y gallu i wrthsefyll y tywydd
- pwysau (llwyth)