Yn y canllaw hwn
1. Cyflwyniad
Bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i addasu atig yn lle y gellir byw ynddo.
Mae'r adran hon yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch gwneud newidiadau i'r atig sydd mewn tŷ presennol nad yw'n uwch na thŷ deulawr. Bydd y gofynion ar gyfer newidiadau i fflat neu anheddau eraill megis maisonettes, neu dai sy'n uwch na rhai trillawr, yn debyg ond efallai y byddant yn fwy helaeth, a gallent ymestyn i rannau eraill o'r adeilad.
Bydd y rheoliadau'n cael eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau, er enghraifft:
- bod cryfder strwythurol y llawr newydd yn ddigonol
- nad yw sefydlogrwydd y strwythur (gan gynnwys y to presennol) yn cael ei beryglu
- bod modd dianc yn ddiogel rhag tân
- bod grisiau diogel yn arwain i'r llawr newydd
- bod system resymol ar gael i inswleiddio rhag sŵn rhwng yr atig a'r ystafelloedd islaw.
Efallai y byddwch am wneud y newidiadau hyn er mwyn gwella'r cyfleusterau storio sydd ar gael neu gynyddu maint y lle y gellir byw ynddo yn eich cartref. Os ydych yn bwriadu gwneud yr atig yn fwy hygyrch neu'n lle gwell i fyw ynddo drwy, er enghraifft, osod grisiau i fyny iddi a'i gwella drwy ei bordio a leinio'r waliau / ceibrennau ac ati, mae'n debygol y bydd angen gwneud gwaith mwy helaeth ac y bydd y Rheoliadau Adeiladu yn berthnasol.
Argymhellir y dylech gysylltu â'r Corff Rheoli Adeiladu i drafod eich cynnig a chael rhagor o gyngor, a bydd yn rhaid hefyd ichi ddarganfod a yw Deddf Muriau Cyd etc. 1996 yn berthnasol i'r gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud.
Bordio at ddibenion storio
Yn y rhan fwyaf o gartrefi, ni fydd y distiau pren presennol sy'n creu "llawr" yr atig (h.y. nenfwd yr ystafelloedd islaw) wedi cael eu dylunio i gynnal pwysau sylweddol (a elwir yn "llwyth"). Mae'r distiau yn clymu rhannau'r to sydd ar oleddf wrth ei gilydd er mwyn eu hatal rhag ymwasgaru ac er mwyn cynnal leinin nenfydau'r ystafelloedd islaw.
Gallai llwyth ychwanegol gormodol, er enghraifft, o ddeunydd a gaiff ei storio, olygu bod y distiau'n cael eu llwytho y tu hwnt i gapasiti eu dyluniad. Os byddwch yn penderfynu gosod estyll llawr dros y distiau presennol yn yr atig, efallai y bydd angen gwneud cais o safbwynt y Rheoliadau Adeiladu i'r Corff Rheoli Adeiladu. Bydd eich Corff Rheoli Adeiladu lleol yn gallu eich cynghori ynghylch y mater hwn.
Creu lle y gellir byw ynddo
Os byddwch yn penderfynu creu lle y gellir byw ynddo (ystafell yr ydych yn bwriadu ei defnyddio'n rhan arferol o'ch tŷ, gan gynnwys ystafelloedd gwely sbâr a allai gael eu defnyddio'n anaml) mewn atig bresennol cartref, mae'n debygol y bydd angen gwneud ystod o newidiadau iddi.
Gallai llawer o'r newidiadau gael effaith andwyol ar yr adeilad a'r sawl sy'n byw ynddo, os na chymerir camau priodol i ystyried, cynllunio a chyflawni'r newidiadau yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth.
Rhagor o wybodaeth
Mae'r adrannau canlynol ar waith cyffredin yn awgrymu llawer o elfennau eraill y mae angen fel rheol iddynt fodloni gofynion y Rheoliadau pan fyddwch yn addasu atig: