Neidio i'r prif gynnwy

Nid oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar ffensys, waliau a gatiau.

Er nad yw rheoliadau adeiladu yn berthnasol iddynt, rhaid i'r strwythurau fod yn gadarn a rhaid iddynt gael eu cynnal a'u cadw.

Os caiff wal yr ardd ei hystyried yn 'wal ffens gydrannol', ac yn dibynnu ar y math o waith adeiladu yr ydych yn bwriadu ei wneud, bydd yn rhaid ichi hysbysu perchennog yr eiddo cyfagos ynghylch y gwaith sy'n ymwneud â Deddf Muriau Cyd etc. 1996. Nid yw hynny'n cynnwys ffensys pren.