Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych yn gwneud gwaith trydanol yn eich cartref neu’ch gardd yng Nghymru a Lloegr, bydd yn rhaid ichi ddilyn rheolau newydd yn y Rheoliadau Adeiladu.

Dylech ddefnyddio peiriannydd sydd wedi cofrestru â chynllun personau cymwys neu geisio cymeradwyaeth gan Gorff Rheoli Adeiladu. Mae hynny’n wir am y rhan fwyaf o waith. Fodd bynnag, nid oes angen ichi sôn am waith atgyweirio, adnewyddu a chynnal a chadw, pwyntiau golau neu bwyntiau trydan ychwanegol, neu newidiadau eraill i gylchedau sy’n bodoli’n barod (oni bai eu bod mewn cegin neu ystafell ymolchi neu yn yr awyr agored).

Mae’r Rheoliadau Adeiladu yn nodi meini prawf a gofynion cyffredinol i sicrhau diogelwch trydanol. Mae Dogfen Gymeradwy P yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol pellach ar gyfer cyflawni’r math hwn o waith. Dylech gofio y gallai fod angen i unrhyw waith trydanol a wneir gennych yn eich cartref, eich gardd, eich garej, eich sied ac unrhyw adeiladau storio eraill gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau Adeiladu. Os nad ydych yn siŵr a oes angen ichi gydymffurfio â nhw, efallai yr hoffech gysylltu ag Adran Rheoli Adeiladu eich awdurdod lleol.

Dylai pob gwaith trydanol ddilyn y safonau diogelwch yn Safon Brydeinig BS7671 (y rheoliadau gosod gwifrau) y gellir dod o hyd iddynt ar wefan y Sefydliad Safonau Prydeinig.

Mae’r rheolau hyn wedi’u cyflwyno er mwyn helpu i leihau nifer y marwolaethau, anafiadau a thanau a achosir gan osodiadau diffygiol.

Yr unig beth a wna’r Rheoliadau Adeiladu yw gosod safonau ar gyfer gwaith gosod trydan yng nghyswllt anheddau (tai, fflatiau ac ati). Os caiff y gwaith ei wneud mewn adeiladau diwydiannol neu fasnachol, bydd Rheoliadau Trydan yn y Gweithle 1989 yn berthnasol iddo. Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sy’n gyfrifol am sicrhau bod gwaith gosod trydan yn y mathau hyn o adeiladau yn ddiogel, ac os oes gennych unrhyw ymholiadau am waith mewn adeiladau o’r fath dylech gysylltu â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Nid yw’r Rheoliadau Adeiladu yn cyfyngu ar bwy all wneud gwaith gosod trydan. Os byddwch am wneud y gwaith eich hun, dylech sicrhau eich bod yn gwybod beth y mae angen ichi ei wneud cyn dechrau ar unrhyw waith. Mae llawer o ganllawiau da ar gael, y gallwch eu defnyddio i’ch helpu.

Nid yw’r Rheoliadau Adeiladu yn gosod safonau ar gyfer diogelwch peiriannau trydan, ond maent yn mynnu bod cysylltiadau sefydlog peiriannau’n ddiogel.

Gwirio diogelwch

Os oes angen gwneud cais ar gyfer y gwaith o safbwynt y Rheoliadau Adeiladu, dylid ei wirio er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel. Gellir gwirio’r gwaith mewn dwy ffordd:

  • drwy ddefnyddio trydanwr sydd wedi cofrestru â chynllun personau cymwys
  • drwy hysbysu Adran Rheoli Adeiladu eich awdurdod lleol.

Adran Rheoli Adeiladu’r Awdurdod Lleol

Dylech wneud cais o safbwynt y Rheoliadau Adeiladu i’r Adran Rheoli Adeiladu, os nad yw’r trydanwr yr ydych yn ei gyflogi i wneud y gwaith wedi’i gofrestru’n berson cymwys dan y cynlluniau personau cymwys, neu os ydych yn gwneud y gwaith eich hun. Dylech gysylltu ag Adran Rheoli Adeiladu eich awdurdod lleol cyn dechrau ar y gwaith. Bydd yr Adran yn gallu esbonio’r gweithdrefnau angenrheidiol wrthych.

Gorau oll hefyd os gellir trafod â’r Adran Rheoli Adeiladu sut y byddai’n hoffi arolygu a gwirio’r gwaith yr ydych yn ei wneud.

Gwaith rheoli adeiladu a wneir gan arolygydd cymeradwy

Arolygydd cymeradwy yw corff sy’n cyflawni’r un swyddogaethau ag Adran Rheoli Adeiladu awdurdod lleol. Os byddwch yn defnyddio arolygydd cymeradwy, bydd yn esbonio wrthych sut y mae’r system arolygydd cymeradwy yn gweithio. Os bydd yr arolygydd cymeradwy’n fodlon bod y gwaith yn ddiogel, ar ôl iddo gael ei orffen, byddwch yn cael copi o’r hysbysiad terfynol.

Cynlluniau Personau Cymwys

Yng nghyswllt diogelwch trydanol, mae hynny’n golygu bod trydanwr wedi’i gofrestru gan gorff a awdurdodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’i fod yn gallu ardystio bod y gwaith a wnaed yn ddiogel, heb fod yn rhaid ichi hysbysu’r Gwasanaeth Rheoli Adeiladu. Pan fydd y gwaith wedi’i orffen, bydd y trydanwr yn trefnu eich bod yn cael tystysgrif cydymffurfio â rheoliadau adeiladu cyn pen 30 diwrnod i’r gwaith gael ei gwblhau. Yna, bydd eich awdurdod lleol hefyd yn cael gwybod am waith y trydanwr.

Yn ogystal, dylai’r person cymwys lenwi Tystysgrif Gosod Trydan a’i rhoi ichi er mwyn dangos bod profion wedi’u cynnal ar y gwaith i sicrhau ei fod yn ddiogel.

Byddai’n ddoeth gofyn i’r trydanwr roi gwybodaeth ichi am y cynllun y mae’n perthyn iddo a’i rif aelodaeth. Yna, bydd modd ichi gysylltu â’r corff i wneud yn siŵr ei fod wedi’i gofrestru. Isod ceir rhestr o’r cyrff sy’n rhedeg cynlluniau personau cymwys ar gyfer gwaith gosod trydan ar wefan Gov.UK.

Gwaith mân

Mae’r Rheoliadau Adeiladu yn caniatáu ichi wneud rhywfaint o waith (a elwir yn waith mân neu’n waith anhysbysadwy) heb orfod hysbysu’r Gwasanaeth Rheoli Adeiladu neu ddefnyddio trydanwr cofrestredig. Mae gwaith o’r fath yn cynnwys:

  • Rhoi ffitiadau trydanol newydd yn lle hen rai (er enghraifft, socedi, ffitiadau golau, switshis rheoli)
  • Ychwanegu cangen â ffiws (sef soced sy’n cynnwys ffiws a switsh a gysylltir â pheiriant, e.e. gwresogydd) at gylched sy’n bodoli eisoes (ond nid mewn cegin, ystafell ymolchi neu yn yr awyr agored)
  • Unrhyw waith atgyweirio neu gynnal a chadw
  • Gosod neu uwchraddio prif fondin neu fondin unbotensial atodol
  • Gosod ceblau foltedd eithriadol o isel at ddibenion anfon signalau neu gyfathrebu (er enghraifft, ceblau ffôn, ceblau ar gyfer system larwm tân neu larwm lladron neu system rheoli gwres).

Os nad ydych yn siŵr a yw’r gwaith yr ydych am ei wneud yn waith y dylid hysbysu rhywun yn ei gylch, dylech gysylltu ag Adran Rheoli Adeiladu eich awdurdod lleol i ofyn am gyngor.

Gall gwaith trydanol mân beryglu diogelwch hefyd. Os bydd trydanwyr cymwys yn gwneud y gwaith, dylent roi Tystysgrif Gwaith Mân ichi sy’n dangos eu bod wedi cynnal profion ar y gwaith i sicrhau ei fod yn ddiogel. Os byddwch yn gwneud y gwaith eich hun, efallai yr hoffech gael trydanwr cymwys i’w wirio.

Dolenni cysylltiedig:

The Building Act 1984 (DCLG)