Neidio i'r prif gynnwy

Ymdrinnir â gwaith dymchwel dan Ddeddf Adeiladu 1984. Yn gyffredinol bydd angen rhoi chwe wythnos o rybudd ymlaen llaw i Adran Rheoli Adeiladu'r Awdurdod Lleol, cyn dechrau ar y gwaith dymchwel.

Gallai Adran Rheoli Adeiladu'r Awdurdod Lleol benderfynu cyflwyno hysbysiad cyn pen chwe wythnos iddi gael y rhybudd, er mwyn nodi amodau y mae angen eu bodloni, a allai gynnwys y camau y dylid eu cymryd i amddiffyn y cyhoedd ac eiddo cyfagos.

Yn ogystal, rhaid i waith dymchwel gydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015 (Saesneg yn unig) a chynllun iechyd a diogelwch a lunnir gan y prif gontractwr.

Bydd angen bodloni'r Rheoliadau Adeiladu sy'n ymwneud â pharatoi'r safle ac atal halogwyr a lleithder, pan fydd y gwaith paratoi yn dechrau ar y safle.

Dylech gysylltu ag Adran Rheoli Adeiladu eich awdurdod lleol i ofyn am ragor o gyngor.