Fel rheol, ni fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i osod estyll tywydd neu estyll bondo newydd yn lle hen rai.
Fe'ch cynghorir i wirio nad yw'r gwaith hwnnw'n lleihau'r aer sy'n mynd i mewn ac allan o'r gwagle yn y to, oherwydd gallai hynny achosi anwedd yn y gwagle ac arwain at damprwydd ar y pren. Os oes fentiau wedi'u gosod yn y system bresennol, bydd angen cadw system debyg.
Fel rheol, ni fydd angen cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu i osod estyll tywydd neu estyll bondo newydd yn lle hen rai (cânt eu disgrifio isod).
Estyll tywydd
Mae'r rhain yn estyll a osodir ar ben draw'r ceibrennau/cwpl wrth y bondo, lle gosodir y cafnau i ddraenio dŵr glaw oddi ar y to. Cânt eu gosod hefyd ar doeau talcen i orchuddio'r ceibrennau/cwpl.
Estyll bondo
Caiff y rhain eu gosod ar wyneb isaf y bondo, lle mae'r to yn hongian dros y waliau. Yma y caiff y tyllau awyru eu gosod fel rheol.