Nid yw'r rheoliadau'n diffinio bod y newid defnydd penodol hwn yn newid sydd 'o bwys'.
Fodd bynnag, os yw eich prosiect arfaethedig yn cynnwys gwaith a fydd yn effeithio ar strwythur yr adeilad, y llwybr dianc a materion eraill sy'n ymwneud â diogelwch tân, neu a fydd yn effeithio ar fynediad i adeiladau a'r defnydd a wneir ohonynt, bydd y rheoliadau yn ystyried bod eich gwaith yn 'newid o bwys' (ac felly'n 'waith adeiladu') y bydd yn rhaid iddo gydymffurfio â'r rheoliadau.
Yn ogystal, dylech gysylltu â'r awdurdod tân lleol, sef yr Awdurdod Unedol fel rheol, i weld pa ddeddfwriaeth ynghylch diogelwch tân a fydd mewn grym ac a fydd yn berthnasol pan fydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio.