Neidio i'r prif gynnwy

Ni fydd y Rheoliadau Adeiladu yn berthnasol yn gyffredinol. Fodd bynnag, bydd angen ichi sicrhau na fydd unrhyw newidiadau'n golygu bod mynediad i'r annedd yn llai boddhaol nag yr oedd o'r blaen.

Felly, er enghraifft, byddai newid lefelau er mwyn gosod grisiau lle nad oedd rhai o'r blaen yn mynd yn groes i'r rheoliadau.

Gostwng cyrbau

Os byddwch yn creu mynedfa newydd i mewn i'r ardd ar draws llwybr troed, bydd angen ichi gael caniatâd gan yr Awdurdod Lleol i ostwng y cyrbau, a gallai fod angen cryfhau'r palmant. Diben hynny yw gwarchod unrhyw wasanaethau sydd wedi eu claddu yn y ddaear, megis pibellau dŵr.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am faterion pwysig y dylid eu hystyried, a chael cyngor ymarferol mwy manwl ynghylch gosod arwyneb athraidd mewn gardd flaen. Teitl y ddogfen yw 'Guidance on the permeable surfacing of front gardens' (Saesneg yn unig).