Neidio i'r prif gynnwy

Addurno

Fel rheol, ni fydd angen cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu ar gyfer unrhyw waith addurno mewnol megis papuro waliau, gosod sgertins newydd neu baentio. Bydd angen ystyried elfennau eraill, fodd bynnag, a chaiff gwaith ar waliau allanol ei drin yn wahanol.

Adnewyddu

Caiff waliau allanol eu hystyried yn elfennau thermol (a ddiffinnir yn Rheoliad 2a Rheoliadau Adeiladu 2000 (fel y’u diwygiwyd)). Mae’n debygol y gallai gwaith adnewyddu elfen thermol arwain at ofyniad i uwchraddio deunydd inswleiddio thermol yr elfen honno ar yr un pryd. 

Cyfraith Tai

Mae rhychwant Deddf Tai 2004 yn golygu y gellid cyflwyno gofynion ynghylch gorffeniadau mewnol dan y Ddeddf. Fodd bynnag, yn ymarferol, nid yw’n debygol y bydd y Ddeddf yn cael ei defnyddio yn y modd hwn ar gyfer gwaith sydd o fewn terfynau safle domestig arferol, oni bai bod y gorchudd newydd yn achosi risg eithriadol o ddifrifol - er enghraifft, o safbwynt lledaenu tân. Bydd yr awdurdod lleol yn gallu eich cynghori ynghylch y modd y bydd y Ddeddf Tai yn berthnasol yn ymarferol. Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf, a’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai sy’n ei hategu, ar gael ar wefan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (Saesneg yn unig).