Neidio i'r prif gynnwy

Systemau gwresogi

Os bwriedir gosod system wresogi neu system ddŵr poeth newydd yn lle hen un, efallai na fydd angen gwneud cais, ac os bydd angen gwneud hynny, efallai na fydd yn angenrheidiol gwneud cais cyn cyflawni'r gwaith. 

Os yw'n angenrheidiol gwneud gwaith brys (er enghraifft, oherwydd bod silindr dŵr poeth wedi dechrau gollwng), nid oes dim i'ch rhwystro rhag gwneud y gwaith atgyweirio ar unwaith, ond rhaid i'r gwaith hwnnw gydymffurfio â'r gofynion, ac ar ôl y digwyddiad bydd yn angenrheidiol gwneud cais am gymeradwyaeth ôl-weithredol a thystysgrif cwblhau.

Os bwriedir gosod system newydd, dylai'r sawl sy'n ei gosod fwrw ymlaen â'r gwaith yn union fel pe bai'n cael ei wneud mewn adeilad newydd.

Caiff cyfarwyddyd ynghylch beth yw darpariaeth resymol ar gyfer cydymffurfio â'r gofynion o ran effeithlonrwydd ynni ei roi mewn cyhoeddiad gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog ar y pryd), sy'n dwyn y teitl "Gwasanaethau Adeilad Domestig – Canllaw Cydymffurfio Argraffiad 2013".

Os oes system sy'n bodoli eisoes wedi'i newid, neu os oes system newydd wedi'i gosod yn ei lle, yr unigolyn a weithiodd ddiwethaf ar y system sy'n gyfrifol am sicrhau ei bod yn gweithio'n ddiogel, a dylai ddarparu tystysgrif i ddangos bod y gwiriadau angenrheidiol wedi'u cynnal.

Gosod boeleri newydd yn lle hen rai

Ni fydd y safonau newydd yn berthnasol oni bai eich bod yn penderfynu newid y boeler sy'n rhan o'ch system wresogi neu'ch system ddŵr poeth ar hyn o bryd, neu'ch bod yn penderfynu newid i un o'r boeleri hyn o fath arall o system wresogi.

Bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i osod boeler newydd (neu ffwrn sydd hefyd yn darparu gwres canolog - Aga, Raeburn ac ati) oherwydd y materion sy'n ymwneud â diogelwch a'r angen i ddefnyddio ynni'n effeithlon. Yn gyffredinol, caiff hynny ei gyflawni drwy gyflogi peiriannydd sydd wedi'i gofrestru dan gynllun cymeradwy.

  • boeler nwy: dylai'r peiriannydd fod wedi cofrestru ar y Gofrestr Diogelwch Nwy o 1 Ebrill 2009
  • boeler olew: dylai'r peiriannydd fod wedi cofrestru ar y Cynlluniau Personau Cymwys
  • boeler tanwydd solet: dylai'r peiriannydd fod wedi cofrestru ar y Cynlluniau Personau Cymwys

Rhaid iddynt ddilyn y canllawiau a eglurir yn nogfen gymeradwy J, sy'n dangos beth sy'n angenrheidiol o ran y cyflenwad aer, yr aelwyd, leinin y ffliw a'r simnai ac sy'n nodi lle gellir gosod ceg y ffliw. Gweler diagramau 3.4 a 3.5 ar gyfer boeleri nwy a gweler diagram 4.2 ar gyfer boeleri olew.

Rhaid bod effeithlonrwydd pob boeler yn cyfateb i o leiaf 86% ar gyfer nwy ac 85% ar gyfer olew.  Wrth osod boeler nwy newydd yn lle hen un, mae'n fwy na thebyg y bydd yn rhaid defnyddio boeler cyddwyso oni bai bod rheswm digonol pam na ellir gosod boeler o'r fath. Bydd peiriannydd cofrestredig yn cynnal asesiad o'r math o foeler y bydd yn ofynnol ichi ei gael. Caiff yr asesiad ei ddisgrifio mewn cyhoeddiad gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol:

I gael rhagor o gyngor ynghylch hynny, dylech ddarllen y daflen wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog ar y pryd), sy'n dwyn y teitl "Boeleri gwres canolog olew a nwy: Cyngor i ddeiliaid tai".

Boeleri cyddwyso – Dylid gosod boeler cyddwyso â gradd A neu B gan SEDBUK, oni bai bod asesiad gan beiriannydd sydd wedi cofrestru â'r Gofrestr Diogelwch Nwy o 1 Ebrill 2009 ymlaen yn awgrymu nad yw'n ymarferol gosod boeler o'r fath. Os felly, gellir gosod boeleri llai effeithlon sydd â gradd C neu D gan SEDBUK, cyhyd â'u bod yn cyfateb o leiaf i'r cyfraddau effeithlonrwydd a nodir uchod. Cliciwch yma i gael esboniad ynghylch SEDBUK a rhestr o'r holl foeleri sydd ar y farchnad yn y DU ynghyd â'u graddau SEDBUK.

Os bwriedir gosod tanc storio newydd ar gyfer system wresogi olew, dylid dilyn canllawiau a nodir yn Nogfen Gymeradwy J, am resymau'n ymwneud â diogelwch tân ac er mwyn cyfyngu'r perygl o lygredd olew.

Efallai y bydd dilyn y cyfarwyddyd yn nogfen gymeradwy J yn golygu na ellir gosod tanc olew newydd yn yr union fan lle'r oedd yr hen danc. Fodd bynnag gall awdurdodau lleol anwybyddu'r cyfarwyddyd ynghylch lleoliad tanc, a geir yn y Ddogfen Gymeradwy, os ydynt o'r farn ei fod yn afresymol ym mhob un o'r amgylchiadau.  Er hynny, byddant yn ystyried i ba raddau y gallai tân yn yr adeilad neu o fan y tu hwnt i'r ffin effeithio ar y tanc tanwydd ac yn ystyried y perygl o lygredd olew ym mhob achos yn unigol ar sail ei rinweddau ei hun, cyn anwybyddu'r cyfarwyddyd.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd deiliaid tai yn penderfynu defnyddio cwmni nad yw'n aelod o un o'r cynlluniau personau cymwys cymeradwy. Os felly, ni fydd y peiriannydd yn gallu hunanardystio bod ei waith yn cydymffurfio â'r safonau, a bydd angen i'r cwmni neu'r deiliad tŷ hysbysu eich Awdurdod Lleol ymlaen llaw o'r bwriad i wneud gwaith ar y boeler, a thalu ffi hysbysu.  Efallai y bydd Gwasanaeth Rheoli Adeiladu'r Awdurdod Lleol yn dewis gwirio bod y gwaith wedi'i wneud i'r safonau angenrheidiol, ac efallai y bydd yn cyflogi peiriannydd cofrestredig i wneud hynny.

Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau dylai'r peiriannydd roi tystysgrif comisiynu ichi, megis tystysgrif Benchmark, a hysbysu Adran Rheoli Adeiladu'r Awdurdod Lleol naill ai'n uniongyrchol neu, os yw'r peiriannydd yn aelod o gynllun personau cymwys, drwy weithredwr y cynllun hwnnw.  Maes o law dylai'r awdurdod lleol roi Tystysgrif Cwblhau dan y Rheoliadau Adeiladu ichi, sy'n dangos bod y gwaith yn cydymffurfio â'r Rheoliadau.

Gellir dod o hyd i gyfarwyddyd ynghylch gosod boeler a pheiriannau llosgi eraill, a'r darpariaethau adeiladu sy'n angenrheidiol er mwyn darparu lle diogel ar eu cyfer (cyflenwad aer, aelwyd, lle tân, ffliw a simnai) yn nogfen gymeradwy J.