Neidio i'r prif gynnwy

Os oes angen ichi ategu sylfeini eich adeilad yn rhannol neu'n gyfan gwbl, bydd rheoliadau adeiladu'n berthnasol. Mae'r rheoliadau yn diffinio'n benodol bod gwaith o'r fath yn 'waith adeiladu', a bydd yn rhaid rhoi camau priodol ar waith i sicrhau bod y gwaith ategu yn sefydlogi'r adeilad ac yn ei atal rhag symud.

Bydd angen rhoi sylw penodol i unrhyw garthffosydd a draeniau sydd wrth ymyl y gwaith.

Mae gwaith ategu yn ddull adeiladu sy'n golygu bod dyfnder sylfeini adeilad yn cael ei gynyddu. Caiff y pridd sydd dan y sylfaen bresennol ei gloddio, ac yn raddol rhoddir deunydd sylfaen yn ei le, sef concrit fel rheol.

Wrth wneud gwaith ategu, rhaid rhoi sylw manwl i ddyluniad, methodoleg a gweithdrefnau diogelwch.  Os na chaiff y math hwn o waith ei wneud yn gywir, gall achosi perygl go iawn a gallai'r cartref presennol ddisgyn neu gael ei ddifrodi.

Dyma'r rhesymau cyffredinol dros ategu sylfeini:

  • Mae sylfeini presennol yr adeilad wedi symud – caiff hynny ei achosi gan bridd gwael neu newidiadau i amodau'r pridd (e.e. mae'r pridd wedi ymsuddo).
  • Penderfynwyd ychwanegu llawr arall at yr adeilad, uwchlaw neu islaw lefel y ddaear, ac nid yw dyfnder y sylfeini presennol yn ddigonol i gynnal yr adeilad wedi iddo gael ei addasu, neu'i lwyth (ei bwysau).

Rhaid cynllunio a gweithredu'n ofalus wrth wneud gwaith ategu.  Os ydych yn bwriadu ategu sylfaen bresennol, bydd angen cymeradwyaeth dan y rheoliadau adeiladu fel rheol. Bydd cael cymeradwyaeth o'r fath fel arfer yn golygu paratoi dyluniad strwythurol o'r gwaith ategu, gan gynnwys y broses y bwriedir ei chyflawni yn ystod y gwaith adeiladu.  Un o'r camau cyntaf yn gyffredinol, cyn dechrau o ddifrif ar y gwaith, fydd cloddio twll peilot wrth ymyl y sylfeini presennol er mwyn i beiriannydd adeiladu neu syrfëwr asesu amgylchiadau'r achos.

Dulliau ac archwiliadau

Bydd yr union ddull y dylid ei ddefnyddio ar gyfer gwaith ategu'n dibynnu ar amgylchiadau niferus yr achos. Er mwyn osgoi tanseilio'r sylfeini presennol yn ormodol, gan achosi rhagor o niwed i'r strwythur uwchben, dylai'r cloddio ar gyfer y gwaith ategu gael ei wneud yn unol â chyfarwyddiadau a manylion peiriannydd adeiladu. 

Os na chaiff y math hwn o waith ei wneud yn gywir, gall achosi perygl go iawn a gallai'r cartref presennol ddisgyn neu gael ei ddifrodi.  Felly, fe'ch cynghorir i gyflogi pobl brofiadol ym maes dylunio (er enghraifft, dylunydd a pheiriannydd adeiladu profiadol) ac adeiladu (er enghraifft, rhywun â phrofiad o waith ategu a gwaith adeiladu cyffredinol) i gyflawni'r prosiect.

Un dull cyffredin yw i waith ategu gael ei wneud un darn ar y tro.  Yn dibynnu ar hyd y sylfaen y mae angen ei hategu, gallai fod modd gweithio ar fwy nag un darn ar y tro – cyhyd â'u bod yn ddigon pell oddi wrth ei gilydd.

Fel rheol, bydd y gwaith cloddio ar gyfer pob darn y mae angen ei ategu yn cael ei archwilio gan beiriannydd dylunio a syrfëwr rheoli adeiladu cyn ei goncritio. Ni fydd rhoi concrit yn y lle a gloddiwyd yn gwarantu y bydd y gwaith ategu'n cynnal y sylfaen yn gadarn, oherwydd gallai fod gwagleoedd rhwng y ddau o hyd.  Fel rheol, felly, bydd yn angenrheidiol gwasgu tywod a sment i mewn i'r gwagle i sicrhau bod y sylfaen yn cael ei chynnal.  Gallai'r peiriannydd a'r syrfëwr rheoli adeiladu archwilio hynny hefyd.

Bydd amseriad pob cam a manyleb y deunyddiau a ddefnyddir yn amrywio o'r naill achos i'r llall, ac fel rheol dylent gael eu pennu gan ddyluniad peiriannydd adeiladu.