Diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru: Rhagfyr 2022
Diweddariad Rhagfyr 2022 ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru ynghylch ein datblygiadau diweddaraf, ymgynghoriadau a chynlluniau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, ar gyfer defnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ar ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.
Gellir gweld rhestr lawn o'n cyhoeddiadau mwyaf diweddar ar ein calendr i ddod.
Yr economi a'r farchnad lafur
Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiad misol, trosolwg o'r farchnad lafur, sy'n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau mewn perthynas â'r farchnad lafur ynghyd er mwyn rhoi'r darlun diweddaraf o'r effaith y mae digwyddiadau gwahanol yn ei chael ar y farchnad lafur. Mae ein dangosfwrdd Economi Cymru mewn Rhifau wedi cael ei ddiweddaru hefyd.
Ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi ein data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Mehefin 2022 sy'n cynnwys data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn ogystal ag ardaloedd lleol. Gwnaethom hefyd ddiweddaru ein datganiad ar Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth ar gyfer 2021, gan gyflwyno amcangyfrifon o gyflogeion a chyflogaeth, yn ogystal â chyhoeddi amcangyfrifon ar gyfer data Incwm Aelwydydd I'w Wario Crynswth Rhanbarthol ar gyfer 2020.
Cafodd y data diweddaraf o'r Arolwg blynyddol o oriau ac enillion eu cyhoeddi ym mis Hydref hefyd, gan roi gwybodaeth am enillion cyfartalog fesul awr, wythnos a blwyddyn ar gyfer 2022 a gwnaethom hefyd ddiweddaru ein datganiad ar ddangosyddion allbynnau tymor-byr i gwmpasu ail chwarter 2022.
Ym mis Tachwedd, gwnaethom gyhoeddi Cynnyrch domestig gros rhanbarthol o fis Ionawr i fis Mawrth 2022 yn ogystal â chyhoeddi gwybodaeth am Ddemograffeg busnes ar gyfer 2021. Cyhoeddwyd yr amcangyfrifon diweddaraf o gyfanswm y gwariant ar ymchwil a datblygu mewn sectorau marchnad gwahanol ar gyfer 2020, yn ogystal ag amcangyfrifon o wariant busnesau ar ymchwil a datblygu ar gyfer 2021.
Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.economi@llyw.cymru.
Tablau mewnbwn-allbwn
Mae ein prosiect i ddatblygu tablau mewnbwn-allbwn ar gyfer Cymru yn parhau. Mae tablau mewnbwn-allbwn yn darparu data manwl ar lifau economaidd yng Nghymru. Os hoffai unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect hwn gael diweddariadau rheolaidd neu drafod sut y gallai fod o fudd i'ch gwaith, yna e-bostiwch ystadegau.masnach@llyw.cymru.
Addysg
Ysgolion
Gwnaethom barhau i gyhoeddi data wythnosol ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol tymor yr hydref a chafwyd y cyhoeddiad cyntaf ar 14 Medi.
Cyhoeddwyd y datganiadau ystadegol canlynol ers mis Medi:
- Disgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol: Medi 2021 i Awst 2022 (8 Medi)
- Cyflawniad academaidd disgyblion mewn asesiadau dechreuol ac yng Nghyfnod Allweddol 3: 2022 (28 Medi)
- Canlyniadau arholiadau dros dro (6 Hydref)
- Gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion (20 Hydref)
- Canlyniadau arholiadau terfynol (6 Rhagfyr)
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni yn ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.
Addysg drawsbynciol ac ôl-16
Roedd mis Hydref yn fis prysur gyda nifer o gyhoeddiadau mewn meysydd gwahanol. Cyhoeddwyd ystadegau blynyddol ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur, ynghyd â'r bwletin ystadegol blynyddol ar bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Cyhoeddwyd yr allbynnau hyn yn hwyrach nag arfer ar ôl gwaith i ailbwysoli'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.
Gwnaethom hefyd gyhoeddi'r set ddiweddaraf o ystadegau blynyddol ar gyfer y mesur perfformiad cyrchfannau dysgwyr ôl-16. Mae'r ystadegau hyn yn edrych ar ddysgwyr mewn addysg ôl-16 ym mlwyddyn academaidd 2019/20 a ph'un a oeddent mewn cyflogaeth a/neu gyrchfannau dysgu parhaus y flwyddyn ganlynol.
Cafodd y set gyntaf o brif ystadegau chwarterol ar raglen Twf Swyddi Cymru+ ei chyhoeddi ym mis Hydref hefyd. Bydd datganiad ystadegol llawn, manylach ar gael pan gaiff data ar gyfer pedwerydd chwarter pob blwyddyn ariannol eu cyhoeddi. Cyhoeddwyd ystadegau ar y sector gwaith ieuenctid a gynhelir yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 hefyd.
Yn olaf, mae ystadegau dros dro ar raglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer trydydd chwarter blwyddyn academaidd 2021/22 wedi cael eu cyhoeddi'n ddiweddar drwy ein dangosfwrdd rhyngweithiol a StatsCymru.
Er mwyn rhoi adborth neu gael unrhyw wybodaeth bellach, e-bostiwch ystadegau.addysgol16@llyw.cymru.
Addysg uwch a chyllid myfyrwyr
Rydym wedi cyhoeddi ein datganiad blynyddol ar Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (addysg bellach).
Er mwyn rhoi adborth neu gael unrhyw wybodaeth bellach addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru.
Tai
Mae gwybodaeth reoli fisol am ddarpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan yn parhau i gael ei chyhoeddi'n rheolaidd. Ers mis Medi, mae'r allbynnau ystadegau tai rheolaidd canlynol wedi cael eu cyhoeddi:
- Dangosydd Cenedlaethol 049: Canran yr aelwydydd sy'n gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai ( 29 Medi 2022)
- Adeiladu tai newydd: Ebrill 2021 i Mawrth 2022 (6 Hydref)
- Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir): Ebrill i Mehefin 2022 (27 Hydref)
- Stoc tai landlordiaid cymdeithasol a rhenti: ar 31 Mawrth 2022, (3 Tachwedd)
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i gyhoeddi data misol ar Fynegai Prisiau Tai ar gyfer Cymru, a chyhoeddwyd y diweddaraf o'r rhain (ar gyfer mis Awst 2022) ar 19 Hydref ochr yn ochr â data ar gyfer gweddill y DU.
Cysylltwch â ni drwy flwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.
Cyflwr tai a thlodi tanwydd
- Safonau Ansawdd Tai Cymru: ar 31 Mawrth 2022 (10 Tachwedd)
- Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru: ym mis Hydref 2021 (2 Tachwedd) Mae'r amcangyfrifon diweddaraf hyn yn cynnwys amcangyfrifon o dlodi tanwydd yn ôl deiliadaeth, cyfansoddiad aelwydydd, oedran a'r math o annedd.
Mae gennym ddau aelod newydd o staff sy'n gweithio i ddatblygu Adnodd Dadansoddi'r Stoc Dai sy'n dwyn ynghyd amrywiaeth o ddata gweinyddol ar dai at ddibenion dadansoddi. Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar adnewyddu setiau data presennol a nodi a chaffael setiau data newydd. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn cynnal prosiectau arddangos i dynnu sylw at werth Adnodd Dadansoddi'r Stoc Dai. Os oes gennych gais y gallwn roi cymorth i chi yn ei gylch, cysylltwch â ni yn ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru.
Rydym hefyd yn datblygu dangosfwrdd data tlodi tanwydd a fydd yn cynnwys data o ffynonellau mewnol ac allanol gan gynnwys adrannau eraill y llywodraeth ac Ofgem. Bwriedir ei gyhoeddi yn ystod chwarter cyntaf 2023.
Dros y chwarter nesaf, byddwn yn ystyried opsiynau ar gyfer arolwg o gyflwr tai yn y dyfodol.
Cysylltwch â ni yn ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau, ceisiadau neu fewnbwn mewn perthynas ag unrhyw un o'r uchod.
Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
Ymateb i'r coronafeirws (COVID-19)
Yn ystod mis Mawrth 2022, cyhoeddwyd Gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: COVID-19 – Cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig. Mae'r ddogfen hon yn egluro bod y cysylltiad rhwng haint COVID-19, salwch difrifol, cyfnodau yn yr ysbyty, a marwolaethau wedi gwanhau'n sylweddol. Mae hyn yn golygu y gallwn symud y tu hwnt i'r ymateb brys. Yn unol â'r cynllun hwn, rydym wedi rhoi terfyn ar lawer o'n hallbynnau COVID-19 neu wedi dechrau eu cyhoeddi'n llai aml.
Rydym yn parhau i ddiweddaru rhai allbynnau allweddol er mwyn sicrhau bod data ar gael o hyd, gan gynnwys data ar y canlynol: amcangyfrifon positifedd a gwrthgyrff o arolwg heintiadau Coronafeirws, derbyniadau a chyfnodau yn yr ysbyty, cartrefi gofal, absenoldeb staff y GIG a hunanynysu a thriniaethau yn ôl cyfrwng therapiwtig.
Mae trosolwg llawn o ddangosyddion COVID-19 ar gael ar ein tudalen ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19). Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dal i ddiweddaru cynnwys arall ar COVID-19 bob wythnos ar y dangosfyrddau gwyliadwriaeth coronafeirws (COVID-19).
Ystadegau ysbytai
Rydym yn parhau i wella ein diweddariadau misol ar berfformiad a gweithgaredd y GIG sy'n cynnwys data ar ofal heb ei drefnu a gofal wedi'i drefnu. Yn ystod y chwarter olaf rydym wedi cyhoeddi blog newydd gan y Prif Ystadegydd er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall cymariaethau o ystadegau perfformiad y GIG ar draws y DU. Byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr ledled y DU i nodi'n well wahaniaethau, lle maent yn bodoli, a rhoi gwybod amdanynt a helpu defnyddwyr i lunio cymariaethau ystyrlon.
Gwnaethom barhau i adrodd ar
- wybodaeth reoli newydd ynghylch nifer y cleifion unigol ar restrau aros am driniaeth, yn ogystal â nifer y llwybrau cleifion, a
- pherfformiad yn erbyn nifer o uchelgeisiau allweddol yng ngoleuni'r effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar weithgaredd a pherfformiad y GIG a nodwyd gan Lywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros.
Cyhoeddwyd diweddariad i nifer gwelyau'r GIG hefyd.
Gofal sylfaenol a chymunedol
Rydym yn parhau i ychwanegu gwybodaeth ychwanegol at lawer o'n hallbynnau, gan gynnwys y chwarter hwn ar bresgripsiynau gyda dadansoddiad newydd fesul cwintel amddifadedd yn seiliedig ar ein herthygl flaenorol ar Boblogaeth a gweithlu clwstwr practisau cyffredinol a gofal sylfaenol yn ôl amddifadedd. Mae adroddiadau blynyddol wedi'u diweddaru ar gael hefyd ar gyfer gwasanaethau deintyddol y GIG, gwasanaethau fferyllol cymunedol a Dechrau'n Deg yn ogystal â diweddariadau chwarterol ar y gweithlu practis cyffredinol, Rhaglen Plant Iach Cymru, bwydo ar y fron a chamddefnyddio sylweddau (a gyhoeddir bellach gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru).
Ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
Y chwarter hwn, cafwyd diweddariad i bennod Cymru iachach yn adroddiad Llesiant Cymru 2022 a'r is-adroddiad cysylltiedig ar lesiant plant a phobl ifanc.
Cyhoeddwyd data newydd o Arolwg Cenedlaethol Cymru ynghylch pa mor hawdd neu anodd yw hi i drefnu apwyntiad â meddyg teulu, yn ogystal â bodlonrwydd â'r gofal a dderbynnir yn ystod apwyntiadau â meddygon teulu ac apwyntiadau ysbyty.
Y chwarter hwn hefyd cafwyd diweddariadau i amrywiaeth o ystadegau iechyd meddwl, gan gynnwys: Derbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl, nifer y bobl a gadwyd o dan Adran 135 a 136 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl, atgyfeiriadau ac amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl ac amseroedd aros am apwyntiad cyntaf gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol.
Yn ogystal, cafwyd amrywiaeth o ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys: Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG, staff a gyflogir gan y GIG, mesurau gofal llygaid, gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu.
Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan Ystadegau ac ymchwil ac mae data sylfaenol manylach ar gael yn ardal iechyd a gofal cymdeithasol StatsCymru
Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ysatadegau.iechyd@llyw.cymru.
Ymchwil Data Gweinyddol Cymru
Y chwarter hwn, gwnaethom gyfrannu at adroddiad blynyddol 2021-22 ADR UK. Tynnwyd sylw at gerrig milltir allweddol a gyflawnwyd gan YDG Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal â gwaith ehangach ADR UK.
Roedd yn bleser gan YDG Cymru lansio ein rhaglen arfaethedig ar gyfer 2022-2026 ar 1 Rhagfyr 2022 mewn digwyddiad yn y Senedd. Mae ein cynllun yn amlinellu sut y byddwn yn cyflawni ein strategaeth a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Diolch i gydweithio agos â thimau polisi o fewn y llywodraeth, mae ein rhaglen waith ar gyfer y pedair blynedd nesaf yn anelu'n uniongyrchol at ddiwallu anghenion o ran tystiolaeth ar gyfer polisi ym meysydd addysg, y blynyddoedd cynnar, sgiliau a chyflogadwyedd, iechyd meddwl, llesiant, tai a digartrefedd, gofal cymdeithasol, newid yn yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol. O ganlyniad, rydym yn hyderus bod gofynion y tîm ymchwil a thimau polisi yn cael eu bodloni gan yr holl waith ymchwil a wneir a bod cyfle sylweddol i gael effaith.
Os hoffech gysylltu, e-bostiwch adruwales@llyw.cymru.
Llesiant Cymru
Gwnaethom gyhoeddi adroddiad blynyddol diweddaraf Llesiant Cymru ar ddiwedd mis Medi. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi asesiad “cyflwr y genedl” o gynnydd tuag at y saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Gallwch hefyd weld data ar gyfer pob un o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol drwy ddefnyddio'r dangosfwrdd rhyngweithiol.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni yn prosiectaublaenoriaethuchel.ystadegau@llyw.cymru.
Arolwg Cenedlaethol Cymru
Cysylltwch â ni yn arolygon@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw gwestiynau.
Arolwg Cenedlaethol 2023-24 ymlaen
Mae'r contract presennol i gynnal yr Arolwg Cenedlaethol, a ddelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn dod i ben â'r gwaith maes diwedd 2022-23 ym mis Mawrth 2023.
Yn dilyn proses gaffael agored, rydym bellach wedi penodi Kantar i gynnal yr arolwg yn y dyfodol. Fodd bynnag, ni fydd gwaith maes yn 2023-24. Y flwyddyn gwaith maes gyntaf o dan y contract newydd fydd 2024-25.
Yn seiliedig ar wybodaeth a nodwyd yn ystod y broses gaffael, mae angen amser ychwanegol ar y contractwr newydd i sefydlu a phrofi trefniadau i gynnal yr arolwg, sy'n golygu na fydd yn bosibl dechrau'r gwaith maes ym mis Ebrill 2023. Gwnaethom ystyried cael gwaith maes ar gyfer rhan o 2023-24 yn unig ond daethom i'r casgliad na fyddai hynny'n diwallu anghenion defnyddwyr am ddata.
Caiff y canlyniadau blwyddyn gyfan nesaf eu cyhoeddi yn ôl y bwriad ym mis Gorffennaf 2023 (yn seiliedig ar waith maes 2022-23), ni fydd canlyniadau ym mis Gorffennaf 2024, ac yna caiff canlyniadau blwyddyn gyfan eu cyhoeddi eto ym mis Gorffennaf 2025, yn seiliedig ar waith maes 2024-25.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm yr Arolwg Cenedlaethol yn arolygon@llyw.cymru.
Cyhoeddiadau
Yn dilyn y Datganiad Cyntaf o ganlyniadau 2021-22 ym mis Gorffennaf, rydym nawr wedi cyhoeddi'r bwletin ystadegol pwnc-benodol manwl cyntaf gan ddefnyddio'r canlyniadau hyn. Mae bwletin gwasanaethau ysbyty a meddygon teulu yn edrych ar ddefnydd pobl o feddygfeydd a gwasanaethau ysbytai a'u bodlonrwydd â'r gwasanaethau hynny.
Holwyd pobl ynghylch pa mor hawdd oedd hi i gael apwyntiad ac amlder apwyntiadau; p'un a oeddent wedi gweld meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall; p'un ai apwyntiad claf allanol neu apwyntiad claf mewnol a oedd ganddynt yn yr ysbyty; a pha mor fodlon oeddent ar y gofal a dderbyniwyd.
Cyfiawnder cymdeithasol
Am ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth eang o ystadegau cysylltiedig â thlodi sydd ar gael, ewch i'r dudalen sy'n cynnwys ein casgliad o ystadegau cysylltiedig â thlodi.
Costau byw
Fel y nodwyd uchod, rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad manylach o dlodi tanwydd ac rydym yn gweithio i ddatblygu dangosfwrdd tlodi tanwydd. Ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi'r diweddariad misol cyntaf o ddata StatsCymru ar Daliadau Cymorth mewn Argyfwng a wnaed o'r Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn rhoi gwybodaeth amserol am yr argyfwng costau byw.
Mae Cyngor ar Bopeth wedi dechrau cyhoeddi dangosfwrdd data sy'n benodol i Gymru sy'n rhoi gwybodaeth am y modd y mae'r argyfwng yn effeithio ar ei gleientiaid.
Cyfeirir at y rhain a ffynonellau eraill o ddata ar yr argyfwng costau byw mewn blog a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr.Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau perthnasol i sicrhau bod data ar lefel Cymru ar fetrigau costau byw allweddol ar gael lle bo hynny'n bosibl.
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)
Os hoffech gael eich hysbysu pan gaiff gwybodaeth ddiweddaraf MALlC ei chyhoeddi, e-bostiwch ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i danysgrifio. Gallwn hefyd ddarparu sesiynau gwybodaeth ynglyn â MALlC 2019. Os hoffech drefnu sesiwn o'r fath ar eich cyfer chi, eich sefydliad neu'ch rhwydwaith, cysylltwch â ni yn ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i drafod hyn.
Yr ymateb i'r argyfwng yn Wcráin
Rydym yn parhau i weithio gyda SYG, y Swyddfa Gartref, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r llywodraethau datganoledig eraill i gynhyrchu ystadegau sy'n ymwneud â'r argyfwng yn Wcráin.
Cyhoeddodd SYG ganlyniadau o ail don yr Arolwg o Ymateb Dyngarol y DU ddydd Mawrth 22 Tachwedd. Fel rhan o'r arolwg hwn, ddiwedd mis Hydref a dechrau mis Tachwedd, cynhaliwyd cyfweliadau ag oedolion o Wcráin a oedd eisoes wedi cymryd rhan mewn arolwg cynharach.
Yn ogystal, ddydd Iau 24 Tachwedd, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref yr ystadegau demograffig diweddaraf. Mae'r rhain yn cynnwys dadansoddiad demograffig o'r rhai sydd wedi gwneud cais am fisa neu wedi derbyn fisa, neu sydd wedi cyrraedd y DU â noddwyr yng Nghymru.
Mae'r ystadegau wythnosol ar nifer y ceisiadau am fisâu, nifer y fisâu a roddir a nifer y bobl sy'n cyrraedd y DU sydd â noddwyr yng Nghymru, yn parhau i gael eu diweddaru.
Diogelwch cymunedol
Mae'r hydref wedi bod yn gyfnod prysur o ran diweddariadau data mewn perthynas â thân ac achub, gyda chyhoeddiadau newydd ar gyfer:
- Ystadegau Achosion Tân ac Achub, 2021-22 (28 Medi)
- Ystadegau Gweithredol Awdurdodau Tân ac Achub, 2021-22 (28 Medi)
- Perfformiad Awdurdodau Tân ac Achub, 2021-22 (28 Medi)
- Tanau glaswelltir: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 (26 Hydref)
- Tanau llosgi bwriadol: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 (30 Tachwedd)
E-bostiwch ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru am ragor o wybodaeth.
Cydraddoldeb
Ddydd Mawrth 29 Tachwedd, gwnaethom gyhoeddi Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd: Cyfrifiad 2021. Mae'r crynodeb pwnc hwn yn rhoi trosolwg o'r pedwar pwnc hwn gan ddefnyddio data o Gyfrifiad 2021, gan gynnwys grwpiau ethnig (categorïau lefel uchel a manwl), hunaniaeth genedlaethol neu hunaniaethau cenedlaethol, prif iaith, hyfedredd yn y Saesneg ymhlith y rhai nad ydynt yn siarad Saesneg na Chymraeg fel prif iaith, a chrefydd. Caiff y data hyn eu dadansoddi ar lefel genedlaethol ac ar lefel awdurdodau lleol, ac maent yn cynnwys data ar grwpiau ethnig, prif ieithoedd, a chrefydd ar gyfer aelwydydd.
Dylid nodi, er bod y bwletin hwn yn cynnwys data ar brif ieithoedd, nad yw'n cynnwys dadansoddiad cynhwysfawr o'r Gymraeg. Cafodd bwletin ar wahân ar y Gymraeg ei gyhoeddi ar 6 Rhagfyr 2022.
Yn ogystal, ddydd Mawrth 29 Tachwedd, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ddata o Gyfrifiad 2021 ar ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd unigolion ac aelwydydd yng Nghymru a Lloegr mewn pedwar bwletin gwahanol:
- Grŵp ethnig, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
- Hunaniaeth genedlaethol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
- Iaith, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
- Crefydd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Yn dilyn gwaith ailbwysoli newidynnau gan SYG, rydym wedi diweddaru ein hamcangyfrifon chwarterol ar gyfer ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol gan ddefnyddio data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ddydd Iau 10 Tachwedd 2022, sy'n golygu bod yr amcangyfrifon hyn yn berthnasol hyd at fis Mehefin 2022. Dylid nodi bod y data arolwg hyn yn golygu y gellir llunio amcangyfrifon mwy amserol o gymharu â'r Cyfrifiad, ond mae'r amcangyfrifon yn llai cadarn a manwl am eu bod yn seiliedig ar arolwg.
Caiff mwy o allbynnau cydraddoldeb y Cyfrifiad eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Gofynnwyd cwestiynau am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd am y tro cyntaf yng Nghyfrifiad 2021, a byddwn yn cyhoeddi ein crynodeb pwnc ar y data hyn ar 6 Ionawr 2023.
Unedau tystiolaeth cydraddoldeb, hil ac anabledd
Cyhoeddodd yr Unedau strategaeth Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd ym mis Hydref 2022 ar ôl cael cymeradwyaeth y Cabinet ar 12 Medi. Mae'r strategaeth a'r blaenoriaethau cysylltiedig sy'n dod i'r amlwg yn disgrifio cwmpas yr Unedau a'r prosiectau cychwynnol a gynhelir.
Cafodd blaenoriaethau ymchwil cychwynnol ar gyfer pob Uned eu datblygu â rhanddeiliaid yn seiliedig ar ymrwymiadau a wnaed yn barod a gofynion sy'n dod i'r amlwg o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau, y Cynllun Gweithredu LHDTC+, y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, y Tasglu Data Cynhwysol a chynlluniau a strategaethau eraill Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi bod yn ystyried sut a phryd y gallwn ddefnyddio dulliau cydgynhyrchu drwy gydol y cylch tystiolaeth. Rydym wrthi'n ystyried sut y gallwn oresgyn rhwystrau penodol wrth fabwysiadu'r dull hwn o weithio.
Rydym hefyd yn gweithio ar y tasgau canlynol:
- archwiliad o dystiolaeth a fydd yn ein helpu i ddeall yr wybodaeth sydd ar gael, y bylchau a'r anghysondebau y mae angen mynd i'r afael â nhw.
- gweithio gyda Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol er mwyn helpu i ddatblygu nodau, camau gweithredu a mesurau.
- comisiynu gwaith er mwyn helpu i ddeall sut y gallwn gasglu tystiolaeth yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd.
- datblygu arolwg o ddata cydraddoldeb i gyrff y sector cyhoeddus.
- gweithio'n agos gyda'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a thîm y Cynllun Gweithredu LHDTC+ i ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu gwaith.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: yrunedtystiolaethcydraddoldeb@llyw.cymru.
Masnach
Arolwg Masnach Cymru
Mae canfyddiadau trydydd Arolwg Masnach Cymru, blwyddyn gyfeirio 2020, yn cael eu dadansoddi o hyd. Mae'r dyddiad cyhoeddi disgwyliedig gwreiddiol, sef mis Mai 2022, wedi cael ei ohirio tan 2023 am fod angen cynnal rhagor o wiriadau ansawdd a chyflwyno prosesau priodoli newydd i'r fethodoleg gan fod gwerth sawl blwyddyn o ddata wedi cael eu casglu erbyn hyn.
Cafodd y gwaith maes ar gyfer pedwaredd flwyddyn yr arolwg ei lansio ym mis Medi a bydd yn dod i ben ganol mis Rhagfyr, gan gasglu data 2021.
Ar hyn o bryd, mae IFF Research dan gontract i gyflawni blwyddyn arall o'r arolwg ac mae bwrdd y prosiect yn ystyried opsiynau i'w gyflawni yn 2023 a 2024.
Mae'r tîm dadansoddi wedi goruchwylio dau brosiect ymchwil ag ymatebwyr Arolwg Masnach Cymru a gytunodd i gymryd rhan mewn gweithgarwch dilynol ynghylch Gwasanaethau Modd 5 (‘sofieteiddio’) a Rheolau Tarddiad. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar Wasanaethau Modd 5 ym mis Tachwedd: Gwasanaethau Modd 5: ymchwil archwiliadol â busnesau a chyrff masnach. Disgwylir i'r adroddiad ar Reolau Tarddiad gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2023.
Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymru
Cafodd y prif ganlyniadau o Ystadegau Masnach Rhanbarthol CThEF ar gyfer masnach nwyddau rhyngwladol Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022 eu cyhoeddi ym mis Hydref 2022: Masnach nwyddau rhyngwladol Cymru: Gorffennaf 2021 i Fehefin 2022.
Ochr yn ochr â'r prif ganlyniad uchod, mae'r dangosfwrdd masnach rhyngweithiol wedi cael ei ddiweddaru hefyd:
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: ystadegau.masnach@llyw.cymru.
Trafnidiaeth
Ym mis Medi, gwnaethom ddiweddaru ein datganiad blynyddol ar hyd a chyflwr ffyrdd rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, gan gyflwyno gwybodaeth yn ôl dosbarth ffordd.
Ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi ystod o wybodaeth a gasglwyd drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru am lefelau teithio llesol pobl rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022 yn ein datganiad Teithio llesol (cerdded a beicio).
Ym mis Tachwedd, gwnaethom gyhoeddi'r data diweddaraf ar lefelau traffig yn ôl y math o gerbyd a dosbarth ffordd ar gyfer 2021 yn ein datganiad ystadegol Traffig Ffyrdd, a ddangosodd fod cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws (COVID-19) wedi parhau i effeithio ar deithio yn 2021, ond i raddau llai.
Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi diweddaru ein dangosfwrdd rhyngweithiol ynghylch damweiniau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu ar gyfer ail chwarter 2022 (mis Ebrill i fis Mehefin 2022). Mae hwn yn cynnwys nifer o ddadansoddiadau gan gynnwys difrifoldeb yr anaf a'r math o ddefnyddiwr ffordd.
I roi adborth ac i wneud sylwadau, cysylltwch ag ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru.
Y Gymraeg
Cyfrifiad 2021
Y cyfrifiad yw'r ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth am nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a dyma sut mae Llywodraeth Cymru yn mesur cynnydd tuag at wireddu eu huchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Gan weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), gwnaethom gyhoeddi'r data cyntaf o'r cyfrifiad ar y Gymraeg ar 6 Rhagfyr.
Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am nifer a chanran y boblogaeth tair oed neu hŷn yng Nghymru sy'n gallu siarad Cymraeg (yn ogystal â sgiliau Cymraeg eraill) ar lefel Cymru, awdurdodau lleol ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is. Cafodd datganiad ystadegol a thablau Excel cysylltiedig sy'n crynhoi'r data eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Cafodd y data diweddaraf o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth eu cyhoeddi ar 25 Hydref.
Caiff y diweddariad nesaf, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Medi, ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Dylid nodi mai'r cyfrifiad yw'r ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth am nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a dyma sut y byddwn yn mesur cynnydd tuag at wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Arolwg Defnydd Iaith
Cafodd bwletin ystadegol ar y defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg ei gyhoeddi ar 17 Tachwedd, y diweddaraf yn y gyfres sy'n defnyddio data o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Mae'r dadansoddiad hwn yn edrych ar y defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned, gan gynnwys y defnydd a wneir o'r iaith mewn sefyllfaoedd a grwpiau cymdeithasol gwahanol. Mae'r erthyglau blaenorol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ac mae'r rhain yn edrych ar y canlyniadau cychwynnol a'r Gymraeg yn y cartref ac mewn addysg.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi gweddill canfyddiadau'r arolwg mewn bwletinau ystadegol ar wahân, yn ôl thema, gan gyfuno data o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 lle bo hynny'n berthnasol. Byddwn yn mynd ati i gyhoeddi'r ddau fwletin nesaf yn y gyfres cyn gynted â phosibl yn y flwyddyn newydd.
- Cymraeg yn y gweithle
- Defnydd o'r Gymraeg gyda gwasanaethau
E-bostiwch dataIaithgymraeg@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Amaethyddiaeth a'r amgylchedd
Cyhoeddwyd yr amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer tir amaethyddol a da byw fel yr oeddent ym mis Mehefin 2022. Mae disgwyl i'r amcangyfrifon cyllid fferm diweddaraf o'r Arolwg o Fusnesau Ffermio gael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2023.
Cafodd yr ystadegau blynyddol diweddaraf ar gasglu ac ailgylchu gwastraff trefol eu cyhoeddi ym mis Tachwedd.
E-bostiwch ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Poblogaeth a demograffeg
Cyhoeddir diweddariad demograffeg chwarterol ar wahân sy'n cynnwys popeth sy'n ymwneud â'r boblogaeth.
Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch Ystadegau.Poblogaeth@llyw.cymru.
Manylion cyswllt ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru
Ymholiadau cyffredinol ynghylch ystadegau
E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru
Pwnc-benodol
Cysylltiadau ar gyfer ystadegau
Cylchlythyr electronig a gwasanaeth hysbysiadau Llywodraeth Cymru
Ymholiadau gweinyddol
E-bost kasadmin@llyw.cymru