Mae’r erthygl hon yn rhoi dadansoddiad manwl o amcangyfrifon wedi’u modelu ar nifer yr aelwydydd nad oeddent yn gallu fforddio cadw eu cartrefi wedi’u gwresogi’n ddigonol ym mis Hydref 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru
Mae’r erthygl hwn yn dilyn Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru (prif ganlyniadau): ym mis Hydref 2021 a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022 ac mae’n rhoi dadansoddiad manylach o’r amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer 2021. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru, a gyfrifir gan ddefnyddio’r Arolwg o Gyflwr Tai Cymru 2017-18 fel sylfaen. Ysgrifennwyd yr erthygl hon ar y cyd gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) ac ystadegwyr Llywodraeth Cymru.
Prif bwyntiau
- Roedd 14% o’r holl aelwydydd (196,000 aelwydydd) ac aelwydydd sy’n agored i niwed (169,000 aelwydydd) yn byw mewn tlodi tanwydd.
- Roedd 3% o’r holl aelwydydd (38,000) yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol ac roedd 11% (153,000) mewn perygl o dlodi tanwydd.
- Roedd aelwydydd yn y sector rhentu preifat yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd, a 23% o’r rhain yn byw mewn tlodi tanwydd, o'i gymharu â 13% o berchen-feddianwyr neu'r rheiny mewn tai cymdeithasol.
- Roedd 22% o aelwydydd un person heb blant yn dlawd o ran tanwydd, tra bod 4% o aelwydydd gyda dau oedolyn a phlant mewn tlodi tanwydd.
- Mae aelwydydd lle mae'r ymatebwr yn ddi-waith neu ar fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd (MTB) yn fwy tebygol o fod mewn tlodi tanwydd na'r rhai nad ydynt, gyda 7 o bob 10 o’r aelwydydd â’r 10 y cant isaf o incwm mewn tlodi tanwydd.
- Roedd aelwydydd sy’n byw mewn eiddo hŷn yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd gyda 22% o aelwydydd sy’n byw mewn anheddau cyn 1919 mewn tlodi tanwydd.
- Roedd aelwydydd mewn anheddau â waliau soled yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd (21%) na'r rhai mewn anheddau â waliau ceudod. Fodd bynnag, p'un a oedd waliau ceudod wedi'u hinswleiddio (11%) neu beidio (12%) ni chafodd unrhyw effaith sylweddol ar statws tlodi tanwydd.
- Roedd hanner yr aelwydydd a oedd yn byw mewn anheddau heb wres canolog (50%) yn dlawd o ran tanwydd o'i gymharu â 12% o'r rhai oedd â gwres canolog.
- Wrth i sgôr EPC yr annedd ostwng cynyddodd y tebygolrwydd o fod yn dlawd o ran tanwydd, gydag aelwydydd sy'n byw mewn anheddau bandiau A i C (8%) y lleiaf tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd o'i gymharu â'r rhai mewn bandiau F neu G (54%).
Adroddiadau
Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru: ym mis Hydref 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 775 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru: ym mis Hydref 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 16 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.