Data am y math o dân, anafiadau, difrod a ffynhonnell ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Tanau glaswelltir
Cyhoeddir data tân glaswelltir yn fwletin atodol i’r ystadegau digwyddiad tân ac achub a gynhyrchwyd ym mis Medi 2022.
Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn ymwneud â digwyddiadau'r gwasanaeth tân ac achub sy’n ymwneud â glaswelltir rhwng mis Ebrill 2021 a diwedd mis Mawrth 2022, wrth gymharu ag Ebrill 2020 i Fawrth 2021, cyfnod wedi’i heffeithio i raddau helaeth gan pandemig Coronafeirws (COVID-19), ac felly’r cyfyngiadau iechyd cyhoeddus oedd yn eu lle trwy gyfnod y pandemig. Er llaciwyd cyfyngiadau yn ystod 2021-22 roedd yna rhai cyfnodau yn ystod y flwyddyn lle'r oedd cyfyngiadau dal ar waith ac mae’n bosib bod patrymau ymddygiad heb ddychwelyd i batrymau cyn y pandemig.
Pwyntiau allweddol
Tanau
- Ymatebodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru i 2,459 o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd yn 2021-22, cynnydd o 10% ar y nifer yn 2020-21.
- Gostyngodd nifer y tanau glaswelltir cynradd 22% yn 2021-22 o gymharu â 2020-21.
- Cododd nifer o danau eilaidd ar laswelltir 13% yn 2021-22 (o'i gymharu â 2020-21).
- Yn 2021-22, cafodd bron dri chwarter o danau ar laswelltir, cnydau a choedwigoedd eu cychwyn yn fwriadol.
- Digwyddodd dros 60% o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd 2021-22 ym mis Ebrill 2021 a Mawrth 2022. Dengys data’r Swyddfa Dywydd y gwelwyd dros 25% o’r oriau o heulwen a dim ond 5% o’r oriau o law a ddigwyddodd yn 2021-22 yn ystod y misoedd yma.
- Digwyddodd 44% o danau glaswelltir yn 2020-21 yn Ne Cymru; 41% yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru a 15% yng Ngogledd Cymru.
Anafiadau
- Roedd 3 o anafiadau nad oedd yn angheuol, o ganlyniad i danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd yng Nghymru yn 2021-22.
- Cafwyd y farwolaeth ddiwethaf yn 2007-08 o ganlyniad i danau glaswelltir.
Difrod
- Yn 2021-22, gwnaeth 59% o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd difrod i ardaloedd llai na 20 metr sgwâr.
- Difrododd mwy nag un ymhob pump o danau ardal o fwy na 200 metr sgwâr.
Adroddiadau
Tanau glaswelltir: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Tanau glaswelltir: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 47 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.