Ymunwch â sesiynau ar-lein sy'n agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dadansoddiad amddifadedd.
Bydd y sesiynau'n rhoi gwybodaeth am:
- beth yw MALlC
- sut y gellir ac na ellir ei ddefnyddio
- data MALlC 2019
- dadansoddiad a chanlyniadau
- ble i ddod o hyd i gynhyrchion MALlC
Bydd cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod.
Os hoffech fynychu sesiwn, anfonwch e-bost at ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru. Dylech gynnwys eich enw, eich sefydliad a'ch swydd (os yw'n berthnasol), dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) a’ch gwybodaeth a defnydd cyfredol o MALlC. Byddwn wedyn mewn cysylltiad â rhagor o wybodaeth.