Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno rhai canfyddiadau o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Daeth yr arolwg i ben yn gynharach nag a gynlluniwyd yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae rhagor o wybodaeth am oblygiadau hyn, a’r cyfyngiadau ar y data o’r herwydd, yn yr adran am ansawdd a methodoleg.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi gweddill canfyddiadau’r arolwg mewn bwletinau ystadegol ar wahân, yn ôl thema, gan gyfuno data Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 lle bo’n berthnasol.

Prif bwyntiau

  • Roedd bron i dri chwarter o siaradwyr Cymraeg yn dod o gartrefi gydag o leiaf un rhiant oedd ag o leiaf rhywfaint o allu yn y Gymraeg.
  • Roedd 28% o siaradwyr Cymraeg yn dod o gartrefi di-Gymraeg.
  • Roedd tri chwarter y rheini sydd yn dod o gartrefi heb yr un rhiant rhugl wedi dechrau dysgu siarad yr iaith yn yr ysgol.
  • Roedd siaradwyr Cymraeg ddwywaith yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd os oedd o leiaf un rhiant rhugl yn y Gymraeg ganddynt, o gymharu â’r siaradwyr Cymraeg hynny nad oedd ganddynt riant rhugl.
  • Derbyniodd bron i hanner y siaradwyr Cymraeg, waeth beth fo’u gallu, addysg gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig neu’n bennaf, o gymharu â thraean a dderbyniodd addysg uwchradd yn y Gymraeg.
  • O’r holl siaradwyr Cymraeg a dderbyniodd addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig neu’n bennaf, roedd 92% yn disgrifio eu hunain yn rhugl.

Iaith y cartref yn ystod plentyndod

Mae trosglwyddo iaith o’r naill genhedlaeth i’r llall yn allweddol ym maes cynllunio ieithyddol. Mae’n galluogi ac yn annog plant a phobl ifanc i gaffael yr iaith. Nodwyd yn y canlyniadau cychwynnol bod 43% o siaradwyr Cymraeg wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg gartref pan oeddent yn blant ifanc.

Gofynnwyd cwestiwn i oedolion ar allu Cymraeg eu rhieni pan oeddent yn blant, a chwestiwn tebyg i blant a phobl ifanc, ond ar allu cyfredol eu rhieni yn y Gymraeg. Mae’n bwysig nodi ei bod hi’n bosibl mai rhiant neu warcheidwad oedd yn ateb y cwestiynau ar ran eu plant. Yn yr achosion hyn, mae’n debyg mai’r hyn a geir, felly, ydy asesiad y rhieni neu’r gwarcheidwaid eu hunain, yn hytrach na’r plentyn neu’r person ifanc.

Yn ychwanegol at hyn, gofynnwyd cwestiwn pellach i blant a phobl ifanc ynghylch gallu unrhyw frodyr neu chwiorydd sydd ganddynt yn y Gymraeg. Mae’r cwestiynau hyn yn darparu gwybodaeth am lefelau rhuglder ehangach yr aelwyd, a’r berthynas rhwng hynny a lefelau rhuglder y plentyn ei hun.

Yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, roedd 35% o siaradwyr Cymraeg tair oed neu’n hŷn yn siarad Cymraeg yn unig neu’n bennaf  yn y cartref pan oeddent yn blant. Roedd 9% yn siarad Cymraeg a Saesneg yn weddol gyfartal, a 56% yn siarad Saesneg yn unig neu’n bennaf.

Roedd hyn yn amrywio yn ôl rhuglder y rhieni. Roedd 65% o’r rhai oedd ag o leiaf un rhiant yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg yn unig neu’n bennaf  gartref yn blentyn. Roedd 87% o siaradwyr Cymraeg oedd â rhieni oedd yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg, ond ddim yn rhugl, yn siarad Saesneg yn unig neu’n bennaf gartref pan oeddent yn blant.

Image
Mae'r siart gylch hon yn dangos bod 28% o siaradwyr Cymraeg yn dod o gartrefi di-Gymraeg, 25% yn dod o gartrefi gyda rhiant neu rhieni oedd a rhywfaint o Gymraeg ond ddim yn rhugl, 17% yn dod o gartrefi â un rhiant rhugl a 30% yn dod o gartrefi gyda dau rhiant rhugl, yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20.

Roedd 72% o siaradwyr Cymraeg yn dod o gartrefi gyda rhiant neu rieni oedd ag o leiaf rhywfaint o allu yn y Gymraeg, felly roedd 28% o siaradwyr Cymraeg yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Mae hyn yn gyson â ffigurau 2013-15 lle'r oedd 71% o siaradwyr Cymraeg yn dod o gartrefi gyda rhiant neu rieni oedd ag o leiaf rhywfaint o allu yn y Gymraeg. Roedd gan 47% o siaradwyr Cymraeg o leiaf un rhiant yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl yn 2019-20, yr un ganran ag yn 2013-15.

Roedd canran y siaradwyr Cymraeg oedd ag o leiaf un rhiant rhugl yn amrywio’n sylweddol yn ôl oedran. Roedd 36% o siaradwyr Cymraeg ifanc 3 i 15 mlwydd oed yn dweud yr oedd ganddynt o leiaf un rhiant oedd yn rhugl yn Gymraeg, tra bo’r ganran yn 69% ymysg siaradwyr Cymraeg 65 oed neu hŷn. Yn 2013-15 roedd y gwahaniaethau rhwng y grwpiau oedran yn fwy, gyda 29% o siaradwyr Cymraeg 3 i 15 mlwydd oed yn dweud yr oedd ganddynt o leiaf un rhiant oedd yn rhugl yn Gymraeg, a 75% ar gyfer y rhai 65 oed neu hŷn.

Mae 85% o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yn y gogledd-orllewin yn dod o gartrefi gyda rhiant neu rieni oedd ag o leiaf rhywfaint o allu yn y Gymraeg. Mae hyn yn sylweddol uwch na’r 57% a welwyd yn y de-ddwyrain. Mae gwybodaeth ynghylch pa awdurdodau lleol sydd ym mhob rhanbarth ar gael yn yr adran ansawdd a methodoleg.

Image
Mae'r siart golofn wedi'i stacio yn dangos rhuglder siaradwyr Cymraeg yn ôl rhuglder eu rhieni ar gyfer Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Mae'n dangos bod canran uwch, 79%, o siaradwyr Cymraeg rhugl yn dod o gartrefi gyda o leiaf un rhiant rhugl yn y Gymraeg o'i gymharu a 18% o siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl.

Roedd gan 79% o siaradwyr Cymraeg rhugl o leiaf un rhiant rhugl yn y Gymraeg, tra bod 9% o siaradwyr Cymraeg rhugl yn dod o gartrefi nad oedd yr un rhiant yn siarad Cymraeg o gwbl.

O ran siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl, nododd dros un o bob chwech bod o leiaf un rhiant ar yr aelwyd yn rhugl yn y Gymraeg. Roedd 45% o siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl yn dod o gartrefi lle nad oedd yr un rhiant yn siarad Cymraeg o gwbl.

Image
Mae'n dangos bod y mwyafrif helaeth o siaradwyr Cymraeg oedd ag o leiaf un rhiant oedd yn rhugl yn yr iaith, 84%, wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg gartref yn blant ifanc yn wahanol i'r mwyafrif helaeth o siaradwyr Cymraeg oedd yn dod o gartrefi gyda rhywfaint o Gymraeg on dim yn rhugl, 84% oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg yn yr ysgol.

Nodyn: Mae nifer fechan o ymatebwyr wedi nodi eu bod wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg gartref yn blant ifanc ond nad oedd gan yr un o’u rhieni unrhyw allu yn y Gymraeg. Nid yw’r rhain wedi eu cynnwys yn y siart.

Yn yr Arolwg Defnydd Iaith, o blith siaradwyr Cymraeg oedd ag o leiaf un rhiant oedd yn rhugl yn yr iaith, roedd y mwyafrif helaeth, 84%, wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg gartref yn blant ifanc. Nododd 8% eu bod wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg mewn ysgol feithrin, 5% mewn ysgol gynradd ac 1% mewn ysgol uwchradd.

O’r rhai nad oedd ganddynt yr un rhiant rhugl, roedd y ganran uchaf, 34%, wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg yn yr ysgol gynradd, 31% mewn ysgol feithrin a 10% mewn ysgol uwchradd. Golyga hyn fod tri chwarter y rheini sydd yn dod o gartrefi heb yr un rhiant rhugl wedi dechrau dysgu siarad yr iaith o fewn addysg statudol.

Roedd siaradwyr Cymraeg ddwywaith yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd os oedd o leiaf un rhiant rhugl Cymraeg ganddynt, o gymharu â’r siaradwyr Cymraeg hynny nad oedd ganddynt riant rhugl. Oddeutu traean o’r rhai nad oedd ganddynt riant rhugl oedd yn siarad Cymraeg bob dydd.

Mae bron dwywaith yn fwy o siaradwyr Cymraeg yn dod o gartrefi lle mae’r fam yn gallu siarad Cymraeg (waeth beth fo’u gallu) a’r tad ddim yn gallu siarad yr iaith, nag sydd yn dod o gartrefi lle mae’r tad yn gallu siarad yr iaith a’r fam ddim yn gallu (16% o gymharu ag 8%). Mae’n bwysig nodi bod canran uwch o ferched na dynion yn siaradwyr Cymraeg (20% o ddynion sy’n gallu siarad Cymraeg o gymharu â 23% o ferched yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20).

Mae hyn yn gyson â chanfyddiadau Cyfrifiad 2011. Roedd y gyfradd drosglwyddo (cyfran y plant tair i bedair oed mewn teulu a all siarad Cymraeg) ar gyfer aelwydydd pâr, lle gallai un oedolyn siarad Cymraeg, yn uwch mewn achosion lle’r roedd y siaradwr Cymraeg yn ferch yn hytrach nag yn ddyn (49% a 40% yn y drefn honno).

Yn ogystal â gallu rhieni, gofynnwyd am ddefnydd siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn o’r Gymraeg gyda’u rhieni pan oeddent yn blant. Roedd 36% yn siarad Cymraeg yn unig neu’n bennaf gyda’u rhieni (yr un ganran ar gyfer y fam a’r tad).

Gofynnwyd i siaradwyr Cymraeg 3 i 15 oed am allu ieithyddol eu brawd neu eu chwaer hefyd (os yn berthnasol). O’r rheini oedd wedi ateb, roedd gan 35% ohonynt frawd neu chwaer oedd yn rhugl yn y Gymraeg. Roedd gan 44% ohonynt frawd neu chwaer oedd yn gallu siarad Cymraeg ond ddim yn rhugl, ac 8% ohonynt frawd neu chwaer oedd ddim yn gallu siarad Cymraeg. Roedd gan bron i hanner y plant a phobl ifanc oedd yn siarad Cymraeg bob dydd frawd neu chwaer oedd yn rhugl yn y Gymraeg.

Iaith addysg

Fel rhan o’r arolwg, gofynnwyd cwestiynau gwahanol i oedolion a phlant a phobl ifanc ynghylch iaith eu haddysg. Roedd y cwestiynau i oedolion yn canolbwyntio ar iaith eu haddysg ym mhob cam o’r system addysg. Gofynnwyd i blant a phobl ifanc am iaith eu haddysg feithrin, cynradd ac uwchradd hefyd, ond holwyd cwestiynau ychwanegol iddynt ynglŷn â iaith addysgu pynciau penodol. Dim ond plant oedran uwchradd oedd yn ateb y cwestiynau hyn yn yr holiadur plant a phobl ifanc.

Mae Tabl 1 yn dangos canrannau’r siaradwyr Cymraeg a dderbyniodd eu haddysg yn y Gymraeg yn unig neu’n bennaf.

Tabl 1: Canran y siaradwyr Cymraeg a gafodd eu haddysg yn Gymraeg yn unig neu’n bennaf, mis Gorffennaf 2019 i fis Mawrth 2020
  Cymraeg yn unig neu'n bennaf
Ysgol feithrin 38%
Ysgol gynradd 48%
Ysgol uwchradd 30%
Addysg bellach 15%
Addysg uwch 7%

Ffynhonnell: Arolwg Defnydd Iaith 2019-20

Noder: Ni ofynnwyd y cwestiwn ar gyfer addysg bellach ac uwch i blant a phobl ifanc, felly canrannau siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn a geir yn y categorïau hyn.

Derbyniodd bron i hanner y siaradwyr Cymraeg, waeth beth fo’u gallu, addysg gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig neu’n bennaf, o gymharu â bron i draean a dderbyniodd addysg uwchradd yn y Gymraeg. Mae gostyngiad pellach i’w weld yng nghanran y siaradwyr Cymraeg sydd yn, neu wedi, derbyn eu haddysg bellach ac uwch drwy’r Gymraeg.

Roedd y canrannau hyn yn amrywio’n sylweddol yn ôl oedran, yn enwedig ar gyfer addysg gynradd gyda 54% o siaradwyr Cymraeg 3 i 15 oed yn adrodd eu bod wedi/yn derbyn eu haddysg gynradd yn y Gymraeg yn unig neu’n bennaf, o gymharu â 42% o’r rheini oedd yn 65 oed neu’n hŷn.

Mae canrannau uwch o siaradwyr Cymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru wedi eu haddysgu drwy’r Gymraeg nag yn y rhanbarthau eraill, o’r ysgol feithrin i addysg uwch.

Mae dangosyddion adroddiadau blynyddol Cymraeg 2050 ac hefyd ein cynllun gweithredu ar gyfer y Gymraeg mewn addysg yn dangos bod llai o ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd nag yn yr ysgol gynradd yn cael eu hasesu mewn Cymraeg iaith gyntaf ar hyn o bryd.

Gwelir y gwahaniaeth yma rhwng addysg gynradd ac uwchradd yn nata Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion hefyd. Ym mis Ionawr 2020 (yn ystod cyfnod cynnal yr Arolwg hwn), roedd 23% o ddisgyblion blwyddyn 1 (oddeutu 7 oed) yn astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf o gymharu ag 20% o ddisgyblion blwyddyn 7 (oddeutu 12 oed).

Mae data’r Arolwg Defnydd Iaith yn dangos cyswllt clir rhwng rhuglder ac iaith addysg. Mae siaradwyr Cymraeg rhugl yn llawer mwy tebygol na siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl o fod wedi derbyn eu haddysg drwy’r Gymraeg.

Image
Mae'r siart golofn wedi'i stacio yn dangos iaith addysg siaradwyr Cymraeg yn ôl rhuglder ar gyfer Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Mae canran uwch o siaradwyr Cymraeg rhugl yn derbyn eu haddysg drwy'r Gymraeg yn unig neu'n bennaf drwy gydol y system addysg. Mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg rhugl wedi derbyn eu haddysg feithrin a chynradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig neu'n bennaf (69% a 84%).

Roedd canran uchel o siaradwyr Cymraeg rhugl wedi derbyn addysg feithrin a chynradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig neu’n bennaf (69% ac 84% yn y drefn honno).

Roedd darlun ychydig yn wahanol i’w weld wrth ddadansoddi iaith addysg uwchradd. Ychydig dros hanner (57%) o siaradwyr Cymraeg rhugl oedd wedi derbyn eu haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig neu’n bennaf, gydag un ym mhob pump wedi derbyn addysg uwchradd Gymraeg a Saesneg yn weddol gyfartal. 16% o siaradwyr Cymraeg rhugl oedd wedi derbyn eu haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Saesneg yn unig neu’n bennaf.

Mae’r ganran o siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn sy’n derbyn eu haddysg drwy’r Gymraeg yn parhau i ostwng wrth fynd ymlaen i addysg bellach ac addysg uwch. Gwelwyd yn Nhabl 1 fod 15% o siaradwyr Cymraeg yn derbyn addysg bellach yn Gymraeg yn unig neu’n bennaf, a 7% yn derbyn addysg uwch drwy’r Gymraeg yn unig neu’n bennaf.

Wrth edrych ar siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl, mae’r ganran sydd yn, neu wedi, derbyn eu haddysg drwy’r Gymraeg yn unig neu’n bennaf yn isel iawn drwy gydol y system addysg. Yn yr ysgol gynradd y gwelir y ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg sydd ddim yn rhugl sydd yn, neu wedi, derbyn eu haddysg drwy Gymraeg yn unig neu’n bennaf, sef 15%. Derbyniodd bron i dri chwarter o siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl eu haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Saesneg yn unig neu’n bennaf, a gwelir canrannau uchel yn derbyn eu haddysg bellach ac uwch drwy’r Saesneg yn unig neu’n bennaf.

O’r holl siaradwyr Cymraeg a dderbyniodd addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig neu’n bennaf, roedd 92% yn disgrifio eu hunain yn rhugl, o gymharu ag 86% yn 2013-15. Mae’r ganran yn 2019-20 yn debyg i’r hyn a adroddwyd yn Arolwg Defnydd Iaith 2004-06.

Mae cyswllt amlwg rhwng oedran a chanran y bobl a dderbyniodd eu haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg, fel y gwelwyd yn y canlyniadau cychwynnol. Nid oedd yr un cynnig o ran addysg Gymraeg ar gael i’r grwpiau oedran hŷn, na’r un disgwyliadau ar awdurdodau lleol i gynyddu mynediad at addysg Gymraeg ag sydd yna erbyn heddiw. Roedd llai o ysgolion cyfrwng Cymraeg ac felly llai o gyfleoedd i ddysgwyr dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Siart 5 yn dangos sut mae addysg uwchradd siaradwyr Cymraeg rhugl 16 oed neu hŷn yn amrywio yn ôl oedran.

Image
Mae'r siart golofn wedi'i stacio yn dangos iaith addysg uwchradd siaradwyr Cymraeg rhugl 16 oed neu hŷn yn ôl oedran ar gyfer Arolwg Denfydd Iaith 2019-20. Mae'n dangos bod siaradwyr Cymraeg rhugl 16 i 29 a 30 i 44 mlwydd oed yn llawer fwy tebygol o fod wedi derbyn eu haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig neu'n bennaf o gymharu â'r rhai 65 oed neu hŷn.

Roedd siaradwyr Cymraeg rhugl 16 i 29 a 30 i 44 mlwydd oed dros dair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi derbyn eu haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig neu’n bennaf, o gymharu â’r rhai 65 oed neu hŷn.

Gwelwn fod tueddiadau tebyg i’r rhai a welir rhwng iaith addysg a rhuglder yn yr adran yma i’w gweld hefyd rhwng iaith addysg a’r rheini sy’n siarad Cymraeg bob dydd, a hefyd iaith addysg a’r siaradwyr Cymraeg oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg gartref pan oeddent yn blant. Mae’r siaradwyr Cymraeg hyn yn fwy tebygol o fod wedi derbyn eu haddysg drwy’r Gymraeg.

Iaith addysg plant a phobl ifanc

Mae data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion 2020/21 yn dangos bod 24% o holl ddysgwyr oedran cynradd Cymru mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, a bod 20% o holl ddysgwyr oedran uwchradd Cymru mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.

Gofynnwyd i bobl ifanc 11 i 15 oed a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg ym mha iaith y maent yn astudio gwahanol bynciau yn yr ysgol uwchradd.

Image
Mae'r siart golofn wedi'i stacio yn dangos iaith astudio pynciau siaradwyr Cymraeg 11 i 15 oed yn yr ysgol uwchradd ar gyfer Arolwg Denfydd Iaith 2019-20. Mae'n dangos bod y gyfran sydd yn astudio pwnc yn y Gymraeg yn gyfan gwbl neu’n bennaf, neu yn y ddwy iaith yn weddol gyfartal, yn amrywio o 38% mewn gwyddoniaeth i 48% mewn addysg gorfforol a hanes.

Mae Siart 6 yn dangos bod cyfran y siaradwyr Cymraeg 11 i 15 oed sydd yn astudio pwnc yn y Gymraeg yn gyfan gwbl neu’n bennaf, neu yn y ddwy iaith yn weddol gyfartal, yn amrywio o 38% mewn gwyddoniaeth i 48% mewn addysg gorfforol a hanes.

Roedd pobl ifanc a oedd yn rhugl yn y Gymraeg yn fwy tebygol o astudio pynciau uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg na thrwy gyfrwng y Saesneg. Mae’r ffigur isod yn dangos ym mha iaith yr oedd pobl ifanc rugl yn dysgu gwahanol bynciau.

Image
Mae'r siart golofn wedi'i stacio yn dangos iaith astudio pynciau siaradwyr Cymraeg rhugl 11 i 15 oed yn yr ysgol uwchradd ar gyfer Arolwg Denfydd Iaith 2019-20. Mae'n dangos bod y gyfran sydd yn astudio pwnc yn y Gymraeg yn gyfan gwbl neu’n bennaf, neu yn y ddwy iaith yn weddol gyfartal, yn amrywio o 94% mewn mathemateg i 74% mewn addysg gorfforol a hanes.

Roedd cyfrannau’r bobl ifanc rugl 11 i 15 oed a oedd yn dysgu gwahanol bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfan gwbl neu’n bennaf, neu yn y ddwy iaith yn weddol gyfartal, yn amrywio fesul pwnc. Mathemateg (94%), addysg gorfforol (91%) a hanes (91%) oedd y pynciau gyda’r cyfrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg rhugl yn astudio’r pwnc yn Gymraeg yn gyfan gwbl neu’n bennaf, a gwyddoniaeth (74%) ac ieithoedd modern (81%) oedd â’r cyfraddau isaf o siaradwyr Cymraeg rhugl yn astudio’r pwnc yn Gymraeg yn gyfan gwbl neu’n bennaf, neu yn y ddwy iaith yn weddol gyfartal.

Wrth gymharu’r pynciau craidd dros amser, gwelwn fod y ganran o siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n astudio mathemateg yn Gymraeg yn gyfan gwbl neu’n bennaf, neu yn y ddwy iaith yn weddol gyfartal, wedi cynyddu o 85% yn 2013-15 i 94% yn y data diweddaraf. Nid yw’r cynnydd hwn i’w weld ar gyfer y ganran o siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n astudio gwyddoniaeth yn Gymraeg yn gyfan gwbl neu’n bennaf, neu yn y ddwy iaith yn weddol gyfartal. Gwelwyd gostyngiad o 79% i 74% rhwng 2013-15 a 2019-20.

Cymraeg i oedolion

Mae data’r rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu rheoli gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Hon yw’r ffynhonnell awdurdodol sy’n cael ei defnyddio i fesur cynnydd yn y maes Cymraeg i oedolion. Mae’n cynnwys gwybodaeth am bob dysgwr sy’n cofrestru i ddilyn cwrs am gyfnod penodol, fesul blwyddyn. Fodd bynnag, roedd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 yn cynnwys cwestiynau am sut aeth oedolion ati i ddechrau dysgu siarad Cymraeg.

Adroddwyd yng nghanlyniadau cychwynnol Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 bod oddeutu 10% o siaradwyr Cymraeg wedi dechrau dysgu siarad yr iaith pan oeddent yn oedolyn. O’r rheini oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg pan oeddent yn oedolyn, roedd traean yn siarad Cymraeg bob dydd. Nododd dau draean o’r rheini oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg pan oeddent yn oedolyn eu bod yn gallu siarad ychydig o Gymraeg neu ychydig eiriau yn unig. Nododd 6% eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl. 

Gofynnwyd i’r rheini oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg fel oedolyn sut y gwnaethon nhw ddysgu. Roedd dewisiadau ffurfiol ac anffurfiol ar gael a gallent ddewis pob dull dysgu oedd yn berthnasol iddynt.

Image
Mae'r siart far yn dangos canran y siaradwyr Cymraeg oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg yn oedolyn yn ôl dull dysgu ar gyfer Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Mae'n dangos bod dros hanner y rhai oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg fel oedolyn wedi defnyddio cwrs dysgu Cymraeg a drefnwyd eu hunain.

Nodyn: Roedd posib i’r ymatebydd ddewis mwy nag un ateb. Mae’r data yma yn adrodd ar holl ymatebwyr yr arolwg a ddywedodd eu bod wedi dechrau dysgu siarad yr iaith pan oeddent yn oedolyn. Gall hyn fod ar unrhyw bwynt yn eu bywydau, ac nid yw’n ymwneud â’r rhai a oedd yn dysgu Cymraeg fel oedolyn yn ystod cyfnod yr arolwg yn unig.

Yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, roedd dros hanner y rhai oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg fel oedolyn wedi defnyddio cwrs dysgu Cymraeg a drefnwyd eu hunain (fel yr unig ddull dysgu, neu wedi ei gyfuno â rhai o’r dulliau eraill).

Wrth gymharu’r dulliau ffurfiol (cwrs a drefnwyd eu hunain, cwrs drwy’r gwaith neu gwrs prifysgol neu goleg) gyda’r rhai anffurfiol (ar-lein a chymorth ffrindiau a/neu deulu) mae tua hanner y rhai sydd wedi dysgu drwy’r dulliau ffurfiol wedi dysgu drwy’r dull hwnnw yn unig. Roedd canran lawer is yn dweud eu bod wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg pan oeddent yn oedolyn drwy ddefnyddio’r dulliau anffurfiol yn unig. Mae’r data felly’n awgrymu mai adnoddau cymorth yw’r dulliau anffurfiol i’r rheini sy’n dysgu Cymraeg fel oedolion.

Gallu ieithyddol

Er mai diben yr Arolwg Defnydd Iaith yw gwybod rhagor am ddefnydd siaradwyr Cymraeg o’r iaith, mae hefyd yn cynnig amcangyfrif arall ar gyfer canran y boblogaeth sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae Cymraeg 2050 yn nodi’n glir mai’r cyfrifiad yw’r ffynhonnell awdurdodol ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a dyma y byddwn yn ei ddefnyddio i fesur cynnydd yn erbyn yr uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nododd Cyfrifiad 2011 bod 19.0% o’r boblogaeth tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg, neu oddeutu 562,000 o bobl.

Mae Tabl 2 yn dangos canran y siaradwyr Cymraeg yn ôl grŵp oedran yn ôl arolygon defnydd iaith.

Tabl 2: Canran y siaradwyr Cymraeg yn ôl grŵp oedran, 2004-06, 2013-15 a 2019-20
Grŵp oedran 2004-06 2013-15 2019-20
3 i 15 35% 40% 37%
16 i 29 22% 25% 23%
30 i 44 16% 21% 19%
45 i 64 16% 18% 19%
65+ 18% 18% 17%
Pawb (3+) 21% 23% 22%

Ffynhonnell: Arolygon defnydd iaith

Nodyn: Bu newid i’r fethodoleg o gyfrifo’r ganran o’r boblogaeth sy’n gallu siarad Cymraeg ar gyfer data 2013-15 a 2019-20. Ceir manylion pellach am hyn yn yr adran ansawdd a methodoleg.

Yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, roedd 22% o’r boblogaeth tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg, o’i gymharu â 23% yn Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Yn 2019-20 roedd y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn gostwng gydag oedran. Roedd ar ei huchaf ar gyfer y rhai 3 i 15 oed, sef 37%, ac ar ei hisaf ar gyfer y rhai 65 oed neu hŷn, sef 17%. Gwelwyd gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg ym mhob grŵp oedran rhwng 2013-15 a 2019-20, ac eithrio’r rhai 45 i 64 oed. Er hyn, bu cynnydd ers 2004-06 ym mhob grŵp oedran, ac eithrio’r rhai 65 oed neu hŷn, wrth gymharu â data 2019-20.

Er mwyn gallu adrodd ar lefel ddaearyddol gyson drwy’r adroddiad hwn rydym yn cyflwyno data ar lefel rhanbarthau. Ceir gwybodaeth am ba awdurdodau lleol sydd ym mhob rhanbarth yn yr adran ansawdd a methodoleg. Mae’r rhanbarthau hyn yn gyson â’r rhai ddefnyddir yn nadansoddiadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y Gymraeg. Bydd rhywfaint o ddata o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 ar gael ar lefel awdurdod lleol yn y tablau data fydd yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Image
Mae'r map o Gymru yn dangos bod y ganran o siaradwyr Cymraeg tair oed neu hŷn yn amrywio yn ôl rhanbarth gyda'r ganran uchaf yn gogledd-orllewin Cymru a'r ganran isaf yn de-ddwyrain Cymru.

Roedd canran y boblogaeth sydd yn gallu siarad Cymraeg yn amrywio yn ôl rhanbarth ac awdurdod lleol. Roedd y ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y gogledd-orllewin, sef 55%, a’r ganran isaf yn y de-ddwyrain, sef 13%.

Mae’n bwysig nodi bod yr Arolwg Defnydd Iaith yn elfen atodol o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Rhoddir holiadur papur Arolwg Defnydd Iaith i bob siaradwr Cymraeg tair oed neu hŷn sy’n cael ei nodi yn yr Arolwg Cenedlaethol. Mae Siart 9 yn dangos canran y siaradwyr Cymraeg yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, a oedd yn sail i sampl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20.

Image
Mae'r siart golofn wedi'i stacio yn dangos canran y siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn yn ôl rhuglder ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru o 20012-20 i 2021. Mae'n dangos bod y ganran wedi bod yn cynyddu’n gyffredinol ers 2012-13, o 24% yn 2012-13 i 33% yn y cyfnod mis Ebrill i fis Mehefin 2021. Bu gostyngiad yn y ganran yn ystod 2019-20, i 24%.

Noder: Ni chasglwyd data am nifer y siaradwyr Cymraeg yn 2015-16 tra roedd yr Arolwg Cenedlaethol yn cael ei ddatblygu.

Mae canran y siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn wedi bod yn cynyddu’n gyffredinol ers 2012-13, o 24% yn 2012-13 i 33% yn y cyfnod mis Ebrill i fis Mehefin 2021. Fodd bynnag, bu gostyngiad yn y ganran yn ystod 2019-20, sef adeg cynnal Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, i 24%. Mae’r gostyngiad mwyaf i’w weld yn y rhai sy’n gallu siarad ychydig o Gymraeg neu ychydig o eiriau yn unig, ond bu rhywfaint o ostyngiad ym mhob categori yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, mae’r canrannau wedi codi’n ôl i lefelau tebyg ar gyfer y cyfnodau mis Ionawr i fis Mawrth 2021 a mis Ebrill i fis Mehefin 2021.

Mae’n bosibl, felly, bod pobl wedi bod yn llai tebygol o nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg adeg cynnal Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Mae’n ymddangos bod hyn hefyd yn wir, i raddau, adeg cynnal yr arolwg defnydd iaith diwethaf yn 2013-15 hefyd yn ôl Siart 9.

Mae’n bwysig cadw hyn mewn cof, felly, wrth ddehongli’r canlyniadau am y ganran o’r boblogaeth sydd yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Yn ogystal â gofyn am y gallu i siarad Cymraeg, gofynnwyd i oedolion a phlant a phobl ifanc am eu gallu i ddeall Cymraeg llafar, a’u gallu i ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg.

Tabl 3: Gallu ieithyddol yn y Gymraeg, Cyfrifiad 2011 ac Arolwg Defnydd Iaith 2013-15 a 2019-20
Gallu'r Gymraeg Cyfrifiad 2011 Arolwg Defnydd Iaith 2013-15 Arolwg Defnydd Iaith 2019-20
Deall Cymraeg llafar 23% 20% 20%
Siarad Cymraeg 19% 23% 22%
Darllen Cymraeg 18% 18% 18%
Ysgrifennu Cymraeg 16% 20% 17%

Ffynonellau: Cyfrifiad poblogaeth ac arolygon defnydd iaith

Yn 2019-20, dywedodd 20% o’r boblogaeth eu bod yn gallu deall Cymraeg llafar, 22% yn gallu siarad Cymraeg, 18% yn gallu darllen Cymraeg, ac 17% yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yng Nghyfrifiad 2011, y canrannau hyn oedd 23%, 19%, 18% ac 16% yn y drefn honno. Gwelwn yn Nhabl 3, felly, fod nifer fechan o’r rheini sy’n gallu siarad Cymraeg yn adrodd nad ydynt yn gallu deall Cymraeg llafar. Nid yw’n amlwg o’r data beth yw’r rhesymau am hyn.

Roedd gallu yn y Gymraeg yn amrywio yn ôl oedran, gyda’r rhai ieuengaf yn fwy tebygol o nodi gallu yn y Gymraeg na’r rhai hŷn ar gyfer pob un o’r sgiliau. Mae hefyd yn amrywio yn ôl rhanbarth, ar ei uchaf yn y gogledd-orllewin.

Gofynnwyd cwestiwn manylach oedd yn ymwneud â’r gallu i ysgrifennu yn Gymraeg, ac am y tro cyntaf gofynnwyd un arall am eu gallu i ddarllen yn Gymraeg. Gofynnwyd cwestiynau ychydig yn wahanol i oedolion ac i blant a phobl ifanc.

Wrth ddadansoddi’r wybodaeth hon, rhaid cofio mai adrodd ar eu gallu i ddarllen neu ysgrifennu Cymraeg eu hunain a wnâi’r ymatebwyr, ac mae elfen o oddrychedd ynghylch eu hatebion, yn yr un modd ag y mae elfen o oddrychedd wrth adrodd ar eu gallu i siarad Cymraeg.

Yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, roedd 66% o siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn yn gallu darllen a deall y rhan fwyaf neu gryn dipyn o bethau wedi’u hysgrifennu yn Gymraeg, a 56% yn gallu ysgrifennu yn Gymraeg ar gyfer y rhan fwyaf o sefyllfaoedd neu gryn dipyn o Gymraeg.

Bu newid i’r cwestiwn a ofynnwyd am lefel sgiliau ysgrifenedig siaradwyr Cymraeg yn 2019-20, felly nid oes modd cymharu’r data dros amser. Yn 2013-15, roedd 57% o siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn yn dweud eu bod yn gallu ysgrifennu yn y Gymraeg yn dda neu’n dda iawn, gostyngiad o’r 67% yn 2004-06.

Tabl 4: Gallu siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn i ddarllen a deall yn y Gymraeg yn ôl defnydd o’r iaith, rhuglder a lle y gwnaethant ddechrau dysgu siarad yr iaith, mis Gorffennaf 2019 i fis Mawrth 2020
  Gallu darllen a deall rhan fwyaf neu cryn dipyn o Gymraeg Gallu darllen a deall brawddegau syml yn y Gymraeg, neu llai
Bob dydd 85% 15%
Ddim bob dydd 45% 55%
Rhugl 97% 3%
Ddim yn rhugl 35% 65%
Adref 90% 10%
Rhywle arall 45% 55%
Holl siaradwyr Cymraeg 66% 34%

Ffynhonnell: Arolwg Defnydd Iaith 2019-20

Mae siaradwyr Cymraeg sy’n siarad Cymraeg bob dydd yn fwy tebygol o fod yn gallu darllen y rhan fwyaf neu gryn dipyn o bethau sydd wedi’u hysgrifennu yn Gymraeg, o gymharu â siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn siarad Cymraeg bob dydd (85% o gymharu â 45%).

Mae tuedd debyg (hynny yw, canran uwch yn gallu darllen y rhan fwyaf neu gryn dipyn o bethau sydd wedi’u hysgrifennu yn Gymraeg) i’w gweld wrth gymharu siaradwyr Cymraeg rhugl â rhai nad ydynt yn rhugl, a hefyd wrth gymharu'r rhai sydd wedi dechrau dysgu’r iaith gartref yn blentyn ifanc â’r rheini sydd wedi dysgu drwy ffordd arall.

Tabl 5: Gallu siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn i ysgrifennu yn y Gymraeg yn ôl defnydd o’r iaith, rhuglder a lle y gwnaethant ddechrau dysgu siarad yr iaith, mis Gorffennaf 2019 i fis Mawrth 2020
  Gallu ysgrifennu rhan fwyaf neu cryn dipyn o Gymraeg Gallu ysgrifennu bradwddegau syml yn y Gymraeg, neu llai
Bob dydd 77% 23%
Ddim bob dydd 32% 68%
Rhugl 93% 7%
Ddim yn rhugl 18% 82%
Adref 82% 18%
Rhywle arall 33% 67%
Holl siaradwyr Cymraeg 57% 43%

Ffynhonnell: Arolwg Defnydd Iaith 2019-20

Mae tueddiadau sgiliau ysgrifennu siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn yn debyg iawn i’r tueddiadau sgiliau darllen, fel y gwelir yn Nhabl 4, ond gwelir canrannau is yn gallu ysgrifennu y rhan fwyaf neu gryn dipyn o Gymraeg.

Mae’r canrannau o siaradwyr Cymraeg sydd yn gallu ysgrifennu a darllen yn Gymraeg yn gymharol gyson ym mhob grŵp oedran. Mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn sy’n gallu ysgrifennu neu ddarllen y rhan fwyaf neu gryn dipyn yn Gymraeg yn byw yn y gogledd-orllewin a’r ganran isaf yn y gogledd-ddwyrain.

Gofynnwyd i blant a phobl ifanc am lefel eu gallu i ddarllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg am y tro cyntaf yn 2019-20. Atebodd 69% o blant a phobl ifanc a oedd yn siarad Cymraeg eu bod yn gallu darllen Cymraeg yn dda neu’n dda iawn. Nododd 70% eu bod yn gallu ysgrifennu Cymraeg yn dda neu’n dda iawn. Roedd canran uwch o blant a phobl ifanc 11 i 15 oed yn gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn dda neu’n dda iawn na’r rhai 3 i 7 oed, gan ddangos cynnydd wrth iddynt fynd drwy’r system addysg.

Nid oedd y berthynas rhwng gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg â rhuglder a ble y gwnaethant ddechrau dysgu siarad Cymraeg mor glir ar gyfer plant a phobl ifanc ag yr oedd ar gyfer oedolion. Roedd canran uchel o’r rhai oedd yn siarad Cymraeg bob dydd yn gallu darllen neu ysgrifennu yn dda neu’n dda iawn.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Diben yr Arolwg Defnydd Iaith yw casglu gwybodaeth ynghylch pa mor aml, ble, pryd ac â phwy y mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg, a chael gwybod mwy am eu gallu yn yr iaith. Rydym yn parhau i ystyried y cyfrifiad fel y brif ffynhonnell wybodaeth ynghylch sgiliau’r boblogaeth tair oed neu hŷn yng Nghymru yn y Gymraeg, ond mae’r arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth i ni am ddefnydd siaradwyr Cymraeg o’r iaith.

Mae Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 yn barhad o ymchwil a wnaed ar y cyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru yn 2013-15. Bu Arolygon Defnydd Iaith yn 2004 i 2006 hefyd, a gynhaliwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Cafodd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 ei gynnal fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru, yn yr un modd ag Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 1 Gorffennaf 2019 a 14 Mawrth 2020.

Datblygwyd yr holiaduron a ddefnyddiwyd ar gyfer arolwg 2019-20 gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgynghoriad â defnyddwyr ystadegau am y Gymraeg. Nid oedd y rhan fwyaf o’r cwestiynau wedi cael eu newid ers Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Fodd bynnag, cyflwynwyd rhai cwestiynau newydd, er enghraifft, ynglŷn â barn siaradwyr Cymraeg am yr iaith, a hyder siaradwyr Cymraeg wrth siarad yr iaith.

Roedd dau fath o holiadur, un ar gyfer oedolion (16 oed neu hŷn) ac un ar gyfer plant a phobl ifanc (3 i 15 oed). Cafodd yr holiadur i blant a phobl ifanc ei gwblhau gan y rhiant neu warcheidwad, neu gan y person ifanc os oedd yn dymuno cwblhau’r holiadur. Roedd modd cwblhau’r holiaduron yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ceir copïau o'r ddau holiadur ar dudalen we deunydd yr arolwg.

Cyfradd ymateb yr arolwg oedd 47%, h.y. o’r holl siaradwyr Cymraeg a gafodd eu hadnabod yn Arolwg Cenedlaethol Cymru, roedd 47% o’r rheini wedi cwblhau a dychwelyd yr holiadur. Mae hyn ychydig yn uwch na’r gyfradd ymateb o 44% yn Arolwg Defnydd Iaith 2013-15.

Mae rhagor o wybodaeth dechnegol a gwybodaeth am ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael ar ein gwefan. Bydd gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth am ansawdd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 (gan gynnwys gwybodaeth bellach am gyfraddau derbyn, dychwelyd ac ymateb yr arolwg) yn adroddiadau Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 unwaith y byddant ar gael.

Newid i’r ffordd o gyfrifo gallu’r boblogaeth yn y Gymraeg

Mae’r arolygon defnydd iaith blaenorol, a chanlyniadau cychwynnol Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, wedi cyfrifo gallu’r boblogaeth gyfan yn y Gymraeg yn seiliedig ar y rhai sydd wedi ateb eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr arolwg defnydd iaith, a’r rhai sydd wedi nodi nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg Cenedlaethol (neu yn yr Arolwg Byw yng Nghymru ar gyfer Arolwg Defnydd Iaith 2004-06).

Fodd bynnag, mae nifer fechan iawn o bobl sydd wedi nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg Cenedlaethol wedyn yn nodi nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg yn yr arolwg defnydd iaith. Rydym bellach wedi newid y ffordd o gyfrifo gallu’r boblogaeth gyfan yn y Gymraeg i gynnwys yr ymatebwyr hynny, ac wedi diwygio ein canlyniadau cychwynnol, yn ogystal â chymariaethau â data o Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Yn anffodus ni ellir ailadrodd y fethodoleg ar gyfer data 2004-06. Mae'r newidiadau fel a ganlyn:

Gostyngiad o un pwynt canran yng nghanran y boblogaeth tair oed neu hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn rhugl yn 2019-20, o 11% i 10%.

Gostyngiad o un pwynt canran yng nghanran y boblogaeth tair oed neu hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn 2013-15, o 24% i 23%.

Gostyngiad o un pwynt canran yng nghanran y boblogaeth tair oed neu hŷn sy’n siarad Cymraeg bob dydd yn 2013-15, o 13% i 12%.

Rhanbarthau Cymru

Er mwyn gallu adrodd ar lefel ddaearyddol gyson drwy’r adroddiad hwn, rydym yn cyflwyno data ar lefel rhanbarthau. Mae’r rhanbarthau hyn yn gyson â’r rhai ddefnyddir yn nadansoddiadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y Gymraeg. Bydd rhywfaint o ddata o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 ar gael ar lefel awdurdod lleol yn y tablau data fydd yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Rhanbarthau Cymru ac awdurdodau lleol cyfansoddol y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn

Gogledd-orllewin Cymru

Ynys Môn

Gwynedd

Conwy

Gogledd-ddwyrain Cymru

Sir Ddinbych

Sir y Fflint

Wrecsam

Canolbarth Cymru

Powys

Ceredigion

De-orllewin Cymru

Sir Benfro

Sir Gaerfyrddin

Abertawe

Castell-nedd Port Talbot

De-ddwyrain Cymru

Pen-y-bont ar Ogwr

Bro Morgannwg

Caerdydd

Rhondda Cynon Taf

Merthyr Tudful

Caerffili

Blaenau Gwent

Torfaen

Caerffili

Casnewydd

Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19)

Yn dilyn Arolwg Defnydd Iaith 2013-15, y bwriad gwreiddiol oedd cynnal yr arolwg defnydd iaith dilynol rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mawrth 2021, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019-21. Fodd bynnag, oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), daeth yr arolwg i ben yn gynharach nag a gynlluniwyd, yn ystod mis Mawrth 2020. Yr hyn a gyflwynir yma, felly, yw canfyddiadau naw mis cyntaf yr arolwg, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019-20.

Mae canlyniadau’r arolwg yn seiliedig ar sampl o ychydig dros 2,200 o siaradwyr Cymraeg. Roedd maint sampl Arolwg Defnydd Iaith 2013-15 bron yn 7,200 o bobl. Gan fod maint sampl 2019-20 yn llai na’r hyn a gynlluniwyd, nid yw’n bosibl dadansoddi canlyniadau’r arolwg yn ôl awdurdod lleol ar gyfer yr holl ddata fel y gwnaed yn yr arolygon blaenorol.

Yn gyffredinol nid ydym yn defnyddio cyfansymiau is na 30 o bobl yn ein dadansoddiadau, er mwyn gwneud yn siŵr bod ansawdd y data yn ddigon cadarn i dynnu casgliadau arwyddocaol o’r data. Er mwyn caniatáu’r dadansoddiadau manwl gyda’r sampl llai sydd ar gael ar gyfer 2019-20, rydym wedi cynnwys cyfansymiau rhwng 5 a 30, nodir yr ansawdd is lle’n briodol.

Elfen atodol o Arolwg Cenedlaethol Cymru oedd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, yn yr un modd ag Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Gofynnwyd i oedolion, a ddewiswyd ar hap, i gymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Cymru a nodi pob aelod o’u haelwyd oedd yn gallu siarad Cymraeg. Yna cafodd pob siaradwr Cymraeg gopi o holiadur yr Arolwg Defnydd Iaith i’w lenwi a’i ddychwelyd drwy’r post. Yn sgil y pandemig, bu’n rhaid i Arolwg Cenedlaethol Cymru newid ei ddull gweithredu o gyfweld pobl wyneb yn wyneb i gasglu data dros y ffôn oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Yn ogystal â’r newid yn y dull o gasglu data Arolwg Cenedlaethol Cymru, nid oedd modd cael rhifau ffôn ar gyfer samplau newydd, felly penderfynwyd ail-gysylltu gyda chyn-ymatebwyr Arolwg Cenedlaethol Cymru er mwyn ei gwneud yn bosibl cynnal yr arolwg. Nid oedd modd, felly, nodi rhagor o siaradwyr Cymraeg, felly bu’n rhaid i’r Arolwg Defnydd Iaith ddirwyn i ben ym mis Mawrth 2020.

Serch hynny, oherwydd bod yr arolwg hwn wedi cael ei gynnal yn y cyfnod cyn y cyfyngiadau ledled y Deyrnas Unedig yn sgil pandemig y coronafeirws ddiwedd mis Mawrth 2020, mae’r arolwg yn darparu llinell sylfaen amserol ar gyfer y defnydd o’r Gymraeg cyn cyfnod y pandemig. Byddwn ni’n ystyried pryd y dylem gynnal Arolwg Defnydd Iaith pellach maes o law, yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canfyddiadau arolwg a oedd yn edrych ar effeithiau COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg ers dechrau cyfnod y pandemig. Gofynnwyd i grwpiau hysbys gwblhau’r arolwg, a oedd yn casglu tystiolaeth ar sut roedd y grwpiau wedi gweithredu cyn y pandemig, p’un a oedden nhw wedi gallu gweithredu ers cychwyn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, a beth oedd eu disgwyliadau ar gyfer y dyfodol.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Hon yw’r ail mewn cyfres o fwletinau ystadegol yn ôl thema yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau cychwynnol Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 ym mis Medi 2021. Bydd bwletinau i ddilyn ar y Gymraeg yn y gweithle, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg a defnydd o’r Gymraeg â gwasanaethau. Byddwn yn cyfuno data o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 lle bo’n berthnasol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan fraich reoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu p’un a yw’r ystadegau hyn yn parhau i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei ddiddymu ar unrhyw bryd os nad ydynt yn glynu at y safonau uchaf, a gellir adennill y dyfarniad pan fo’r safonau yn cael eu hadfer.

Cynhaliwyd asesiad o'r ystadegau hyn yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2016.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud gwelliannau, fel ymgynghori ymhellach â’n defnyddwyr am eu hanghenion mewn perthynas â’r defnydd o’r Gymraeg.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Nid oes unrhyw ddangosydd cenedlaethol wedi ei gynnwys yn y datganiad hwn ond diweddarwyd y dangosydd cenedlaethol am ddefnydd o’r Gymraeg, sydd yn defnyddio’r un ffynhonnell ddata, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, yn ein canlyniadau cychwynnol ar y defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Llio Owen
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR 48/2022