Neidio i'r prif gynnwy

Chyrchfannau dysgwyr ar gyfer sefydliadau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion ay gyfer Awst 2019 i Orffennaf 2020.

Mae'r adroddiad hwn yn darparu ystadegau ddysgwyr yn 2019/20 a'u cyrchfannau’r flwyddyn ganlynol, felly, mae'n cwmpasu cyfnod o'r pandemig coronafeirws (COVID-19) ac yn rhoi'r olwg gyntaf ar yr effaith bosibl ar y dysgwyr hyn.

Prif bwyntiau

Image
Mae'r siart bar hwn yn dangos cyrchfannau dysgwyr ôl-16 am y blynyddoedd academaidd 2014/15 i 2019/20. Mae'n dangos bod gan 84% o'r holl ddysgwyr a oedd yn gadael addysg ôl-16 yn 2019/20 gyrchfan barhaol yn 2020/21, gyda 85% yn 2018/19, 85% yn 2017/18, 84% yn 2016/17, 82% yn 2015/16 a 82% yn 2014/15.

O’r 110,140 o ddysgwyr a gwblhaodd raglen ddysgu yn 2019/20:

  • roedd gan 84% gyrchfan barhaus yn 2020/21 i naill ai cyflogaeth neu ddysgu, sydd 1 pwynt canran yn is na dysgwyr 2018/19
  • roedd 54% mewn cyflogaeth barhaus, sydd 7 pwynt canran yn is na dysgwyr 2018/19 ac roedd 49% yn dysgu’n barhaus, sydd 3 pwynt canran yn uwch na dysgwyr 2018/19
  • gall y gostyngiad mewn cyflogaeth barhaus a’r cynnydd cyfatebol mewn dysgu parhaus fod oherwydd yr amhariad a achoswyd gan y bandemig coronafeirws (COVID-19)

Gwybodaeth bellach

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar gyrchfannau dysgwyr ôl-16 (hynny yw, yr hyn y mae dysgwyr yn ei wneud ar ôl iddynt gwblhau eu rhaglen ddysgu), gan gynnwys y dysgwyr hynny sy'n ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith.

Mae'n rhan o gyfres o dri mesur perfformiad cyson a ddatblygwyd ar gyfer addysg ôl-16. Mae adroddiad ar wahân yn rhoi gwybodaeth am gyflawniad dysgwyr, ond mae’r cyhoeddiad hwnnw wedi'i ohirio dros dro oherwydd materion sy'n gysylltiedig â threfniadau arholi ac asesu yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).  Data arbrofol yw’r rhain ac fe fyddwn yn ymgynghori ymhellach gyda darparwyr dysgu ynghylch y fethodoleg.

Adroddiadau

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 cyrchfannau dysgwyr, Awst 2019 i Orffennaf 2020 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Rebecca Armstrong

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.