Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y cynnydd a wneir gan landlordiaid cymdeithasol o ran cyflawni'r Safon Ansawdd Tai Cymru (2002) ar gyfer eu holl stoc.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cyhoeddiad diweddaraf

Data ar gyfer 31 Mawrth 2020

Wrth i'r galw gynyddu ar gyfer ystadegau a data i fesur effaith y pandemig COVID-19, mae rhaid i ni newid ein harferion casglu a rhyddhau data, gan ganolbwyntio ymdrechion ar ddadansoddiadau ac ystadegau blaenoriaeth. Mae ein datganiad yn egluro hyn ymhellach ac, yn unol â chanllawiau gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, mae'r penderfyniad wedi'i wneud i ganslo'r casgliad a chyhoeddiad data ar 31 Mawrth 2020.

Safon Ansawdd Tai Cymru 2023

Lansiwyd Safon newydd, SATC 2023, ym mis Hydref 2023. Bydd gwybodaeth am gynnydd tuag at SATC 2023 yn cael ei chasglu o 31 Mawrth 2025 mewn casgliad newydd ar lefel eiddo. Rydym yn rhagweld y bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi o haf 2025.

Adroddiad ansawdd