Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o wariant ymchwil a datblygu gan fusnesau yng ngwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr ar gyfer 2021.

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2021. Mae cymariaethau gyda'r flwyddyn flaenorol yn debygol o gael eu heffeithio gan bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Prif bwyntiau

  • Yn 2021, roedd gwariant menter busnes ar ymchwil a datblygu (BERD) yng Nghymru yn £1.2 biliwn, i fyny 9.6% ar ffigur 2020.
  • Roedd hyn yn cynrychioli 2.5% o gyfanswm y DU.
  • Roedd y cynnydd o 9.6% yn yr ail gynnydd uchaf o'r 4 gwlad yn y DU.
  • Ar gyfer y DU, cynyddodd gwariant busnes ar ymchwil a datblygu gan 6.7%.

Gall nifer fach o brosiectau unigol sy'n cychwyn ac yn gorffen mewn cyfnod effeithio'n fawr ar lefel gwariant BERD yng Nghymru. Felly, mae gwariant BERD yng Nghymru yn eithaf anwadal, ac o'r herwydd mae'n werth edrych ar hyn yn yr hirdymor.

Gwnaed gwelliannau methodolegol i gyweirio â chwmpas anghyflawn yng nghanlyniadau arolwg BERD, sydd bellach yn fwy cynrychiadol o fusnesau bach sy'n perfformio ymchwil a datblygu (R&D). Mae'r dull yn defnyddio ffactorau codiad, sydd wedi'u cymhwyso i ganlyniadau'r arolwg sydd fel arall wedi'u paratoi gan ddefnyddio'r broses arferol ar gyfer ganlyniadau arolwg BERD. Mae'r newidiadau hyn wedi'u gweithredu yn ystadegau manwl BERD ar gyfer cyfnod 2018 ymlaen, sy'n golygu bod cymariaethau o amcangyfrifon ar gyfer ymchwil a datblygu a berfformiwyd yn y sector busnes cyn 2018 ddim yn bosib.

Mae'r ffigyrau hyn yn rhoi'r amcangyfrif gorau ar hyn o bryd o ymchwil a datblygu ar lefel y DU, ond mae mwy o ansicrwydd yn yr amcangyfrifon sy'n is na lefel y DU a'r sector sy’n perfformio yr ymchwil a datblygu. Er y bydd y dynodiad Ystadegau Gwladol presennol ar gyfer ffigyrau ymchwil a datblygu am y cyfanswm a lefel y sector sy’n perfformio yn parhau, er mwyn helpu i gyfleu'r ansicrwydd ymhellach, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi gofyn i'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) oedi statws yr Ystadegau Gwladol dros dro ar gyfer y dadansoddiadau manwl (gan gynnwys cyfansymiau i Gymru). Cadarnhaodd OSR eu cytundeb i'r dull hwn o weithredu yn eu llythyr a gyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2022 (Rheoleiddio'r Swyddfa Ystadegau). Mae hyn tan i'r ailddatblygiad pellach ddigwydd ac mae mwy o sicrwydd ar y dosbarthiad islaw'r lefel yma.

Mae gwaith pellach ar y gweill i wella sut mae ystadegau ymchwil a datblygu'r fenter fusnes (BERD) yn cael eu llunio yn y dyfodol, gan gynnwys datblygu dull gwell ar gyfer lluniadu'r sampl sydd i'w defnyddio yn arolwg BERD 2022.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y datganiad ONS.

Bydd y setiau data manwl ar StatsCymru yn cael eu diweddaru i gynnwys y data newydd maes o law.

Adroddiadau

Cyswllt

Jack Tennant

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.